Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on lawcom.gov.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Skip to content

Cyhoeddiadau prosiect

Gweler amrywiaeth o ddogfennau Cymraeg a gyhoeddir gan Gomisiwn y Gyfraith ar y dudalen hon.

Gweler yr holl cyhoeddiadau prosiect (Saesneg) yma.

Am ddogfennau cynharach, ewch i’n gwefan sydd wedi’i harchifo.

65 publications

Apeliadau Troseddol: Crynodeb o’r Papur Ymgynghori

Bwriad y crynodeb hwn yw rhoi trosolwg o’r materion allweddol rydym yn eu trafod yn ein papur ymgynghori Apeliadau Troseddol. Mae’n egluro beth yw pwrpas y prosiect a’r materion rydym yn rhoi sylw iddynt.

Diweddaru Deddf Cofrestru Tir 2002: Crynodeb

Bwriad ein prosiect yw diweddaru LRA 2002 yn sgil y profiad o'r ffordd y mae’n gweithredu. Nid nod y prosiect yw darparu ail-luniad cynhwysfawr o'r Ddeddf,

Cyfraith Amaethyddol yng Nghymru: Cylch Gorchwyl

Adolygu’r gyfraith sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth yng Nghymru gyda’r nod o amlinellu ffurf a chynnwys ar gyfer Cod cyfraith amaethyddol i Gymru, ac argymell sut y gellir symleiddio a moderneiddio’r gyfraith er mwyn ei gwneud yn fwy hygyrch.

Prynu gorfodol: crynodeb o’r papur ymgynghori

Mae’r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (sef yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau gynt) wedi gofyn i Gomisiwn y Gyfraith adolygu’r gyfraith ar brynu gorfodol.

Rhwymedïau ariannol – Crynodeb or adroddiad cwmpasu

Mae’r Crynodeb hwn yn egluro beth yw’r prosiect ac yn tynnu sylw at ein prif gasgliadau a’r pedwar model a nodwyd gennym, ac a allai fod yn sail i unrhyw ddiwygiadau i’r gyfraith rhwymedïau ariannol yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw’n crynhoi ein holl Adroddiad Cwmpasu.

Tenantiaethau Busnes: yr hawl i adnewydduCrynodeb o Bapur Ymgynghori 1

Rydym yn ymgynghori ar yr hawl gyfreithiol i denantiaid busnes gael tenantiaeth arall pan fydd eu tenantiaeth bresennol yn dod i ben, ar yr amod bod y landlord yn gallu gwrthwynebu hynny am nifer cyfyngedig o resymau. Gelwir yr hawl yn “ddiogelwch deiliadaeth”.

Claddu ac Amlosgi: Crynodeb o’r Papur Ymgynghori

Dyma grynodeb o’r ymgynghoriad ynghylch ein cynigion dros dro i ddiwygio’r gyfraith lywodraethol claddu ac amlosgi.

Adolygiad o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014

Cynigion i ddiwygio Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014.

Dirmyg Llys: Crynodeb o’r Papur Ymgynghori

Bwriad y crynodeb hwn yw rhoi trosolwg o’r materion allweddol rydym yn eu trafod yn ein papur ymgynghori Dirmyg Llys. Mae’n egluro beth yw pwrpas y prosiect a’r materion rydym yn rhoi sylw iddynt.

Awtonomi ym maes hedfan: crynodeb o’r papur ymgynghori a trosolwg

Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil, a’r Adran Drafnidiaeth wedi gofyn i Gomisiwn y Gyfraith adolygu fframwaith rheoleiddio’r DU i baratoi’r DU ar gyfer awtonomi ym maes hedfan.