Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on lawcom.gov.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Skip to content

Amdanom ni

Rydym yn gorff bach, dibynadwy, ac annibynnol o arbenigwyr polisi cyfreithiol sy’n cael ei gadeirio gan Farnwr Llys Apêl. Mae gennym bedwar tîm o gyfreithwyr ac ymchwilwyr sy’n canolbwyntio ar feysydd penodol o’r gyfraith. Mae pob tîm yn cael ei arwain gan Gomisiynydd sy’n farnwr, bargyfreithiwr, cyfreithiwr neu’n athro cyfreithiol profiadol.

Rydym yn gorff cyhoeddus anadrannol o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ond rydym yn ymgymryd â phrosiectau ar draws Whitehall a Llywodraeth Cymru.

Beth rydym yn ei wneud

Rydym yn cadw cyfraith Cymru a Lloegr dan adolygiad ac yn gwneud argymhellion ar gyfer datblygu a diwygio lle bo angen. Y rheswm am hyn yw:

  • weithiau mae’r gyfraith yn rhy gymhleth ac mae wedi dyddio – mae angen ei symleiddio a’i moderneiddio
  • nid yw’r gyfraith wedi cadw i fyny ag agweddau cymdeithasol ac mae angen ymagwedd newydd i gydbwyso hawliau sy’n cystadlu â’i gilydd
  • mae technolegau newydd yn dod i’r amlwg ac mae angen datblygu fframwaith cyfreithiol cynhwysfawr

Rydym yn arweinydd byd-eang ym maes diwygio’r gyfraith ac mae ein gwaith yn sicrhau bod y gyfraith a pholisi mewn maes penodol mor deg, modern, syml a chost-effeithiol â phosibl. Rydym yn gwneud hyn drwy waith ymchwil, dadansoddi ac ymgynghori dwys. Rydym yn cynhyrchu argymhellion cynhwysfawr ar gyfer Llywodraethau Cymru a Lloegr, Senedd y Deyrnas Unedig a Senedd Cymru.

Mae ein Comisiynwyr yn rhagori yn eu meysydd, mae gan ein staff cyfreithiol arbenigedd mewn diwygio’r gyfraith, ac mae gennym Gwnsleriaid Seneddol yn fewnol. Mae ein henw da a’n hannibyniaeth yn golygu bod pobl yn ymddiried ynom, ac yn ein galluogi i gynnal ymgynghoriadau manwl o safon uchel a chreu consensws ynghylch cynigion.

Rhagor o wybodaeth am sut rydym yn gweithio

Comisiwn y Gyfraith ac annibyniaeth

Mae Comisiwn y Gyfraith yn gorff statudol, annibynnol. Mae hyn yn golygu ei fod yn gweithredu hyd braich oddi wrth y llywodraeth ac yn adrodd yn uniongyrchol i Senedd y Deyrnas Unedig a Senedd Cymru.

Trawsgrifiad

Trawsgrifiad

Goblygiad annibyniaeth yw y gall y lle y byddwn yn mynd fod yn wahanol i’r hyn rydym ni, neu chi, yn ei ddisgwyl, neu lle mae’r llywodraeth yn ei ddisgwyl, gan fod ein hymgynghoriadau’n chwilio, maen nhw’n rhai dilys.
Efallai na fydd y polisi a luniwn yr un fath â’r hyn a gynigiwyd gennym yn ein papur ymgynghori ac efallai na fydd yn cyd-fynd o gwbl â’r hyn yr oeddem yn ei ddisgwyl, gan ein bod yn gwrando ar yr hyn rydych chi’n ei ddweud, rydych chi’n gallu newid ein meddyliau. Gallai fod dim perthynas o gwbl rhwng polisi’r llywodraeth ac argymhellion Comisiwn y Gyfraith. Yn sicr, nid ydym wedi ein rhwymo gan bolisi’r llywodraeth; ac nid yw’r llywodraeth ychwaith yn rhwym wrth ein hargymhellion ninnau.
Mae’r cysylltiad ar ddechrau’r prosiect, bydd adran gyda
diddordeb go iawn mewn diwygio ond nid o reidrwydd golwg ar ba gyfeiriad i’w gymryd wrth ddiwygio, na bwriad o reidrwydd i ddilyn ein casgliadau. Ond yn aml iawn, mae adrannau’r llywodraeth yn dweud wrthym eu bod wir eisiau barn annibynnol ar hyn, mae angen ymgynghori â’r llywodraeth, ac yn awyddus i ni wneud hynny. Dydw i ddim yn dweud wrthych am fod yn ofalus o’ch gobeithion, rwy’n dweud os ydych chi’n dymuno i Gomisiwn y Gyfraith ymgymryd â phrosiect, bydd yn cael ei wneud o safbwynt gwirioneddol annibynnol.

Ein blaenoriaethau a’n perfformiad

Mae ein tudalennau diwygio’r gyfraith yn cynnwys mwy am ein gwaith diwygio presennol a’n rhaglenni blaenorol.

Mae ein cynllun busnes yn nodi sut y byddwn yn cyflawni ein blaenoriaethau. Rydym yn nodi’r hyn rydym yn ei gyflawni yn erbyn y blaenoriaethau hyn yn ein hadroddiadau blynyddol.

Gweld ein dogfennau corfforaethol.