Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on lawcom.gov.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Skip to content

Amrywiaeth a chynhwysiant

Rydym am sicrhau bod y gyfraith yn deg, yn fodern, yn syml ac yn gost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid i ni groesawu amrywiaeth a chynhwysiant – mewn perthynas â’r rheini rydym yn gweithio gyda nhw a hefyd wrth wneud argymhellion i’r llywodraeth.

Ein nodau yw:

  • creu gweithlu amrywiol ar draws pob lefel yn y sefydliad
  • creu gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u gwerthfawrogi
  • defnyddio ein safle i helpu pobl o gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn y gyfraith i ddilyn gyrfa gyfreithiol
  • sicrhau bod ein hargymhellion i ddiwygio’r gyfraith yn deillio o ddealltwriaeth gadarn o wahanol brofiadau cymunedau ledled Cymru a Lloegr

Mae ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant yn gofyn i’n cyflogeion greu gweithle sy’n dathlu ein hamrywiaeth ac yn ei werthfawrogi fel rhywbeth sy’n hanfodol i’n llwyddiant.

Darllenwch am y cynlluniau amrywiaeth rydym wedi’u rhoi ar waith i ddenu ymgeiswyr.