Fel cynorthwyydd ymchwil yng Nghomisiwn y Gyfraith, byddwch yn meistroli meysydd cymhleth o’r gyfraith ac yn helpu i ddiwygio’r gyfraith yn y DU fel rhan o dîm arbenigol. Byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau ac yn ennill profiad proffesiynol sy’n anodd ei gael yn unrhyw le arall.
Byddwch yn rhan o sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl – ni fydd y gwaith rydych chi’n cyfrannu ato yn cael ei adael i gasglu llwch. Dros y 50 mlynedd diwethaf, mae dros ddwy ran o dair o’n hargymhellion wedi cael eu derbyn neu eu gweithredu.
Mewn lleoliad yng nghanol Llundain, Whitehall, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â Barnwr Llys Apêl, Cwnsleriaid y Brenin, athrawon, bargyfreithwyr a chyfreithwyr – pob un ohonynt yn perfformio ar y lefel uchaf bosibl. Byddwch hefyd yn dysgu am weithrediadau mewnol y llywodraeth, gan weithio gyda gwahanol adrannau a swyddogion polisi.
Fel gwas sifil, byddwch hefyd yn gallu cael hyfforddiant a buddion i’ch helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa. Mae profiad o weithio yng Nghomisiwn y Gyfraith yn cael ei ystyried yn eithriadol o werthfawr gan gyflogwyr – mae ein cynorthwywyr ymchwil fel arfer yn mynd ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus yn y bar, mewn cwmnïau cyfreithiol blaenllaw, yn y byd academaidd ac ym maes polisi.
Y rôl
Mae rôl cynorthwyydd ymchwil yn cynnwys cymysgedd o ymchwil cyfreithiol, dadansoddi polisïau a gwaith gweinyddol.
Cyn ymgynghoriad
Yng nghamau cynnar prosiect, gall cynorthwywyr ymchwil ddisgwyl edrych ar y gyfraith bresennol a chanfod sylwadau gan ymarferwyr ac academyddion ar y problemau sy’n gysylltiedig â hi ac opsiynau posibl ar gyfer diwygio. Efallai y gofynnir ichi gynnal ymchwil gymharol, gan ystyried awdurdodaethau cyfraith gyffredin a chyfraith sifil. Efallai y gofynnir ichi edrych ar arferion cyfredol y llysoedd neu ar ymchwil economaidd-gymdeithasol. Mae’n debygol y byddwch yn gweithio ag economegydd y Comisiwn i asesu effaith ymarferol y gyfraith bresennol ac opsiynau ar gyfer diwygio.
Ymgynghoriad
Mae Comisiwn y Gyfraith yn rhoi pwyslais mawr ar ymgynghori. Bydd cynorthwywyr ymchwil yn ymwneud yn agos ag ymchwilio, drafftio a chyhoeddi’r papur ymgynghori. Efallai y gofynnir ichi helpu gyda gwaith y wasg neu waith cyfathrebu arall, a chyda digwyddiadau ymgynghori. Byddwch fel arfer yn gweithio ar werthuso a dadansoddi’r ymatebion i ymgynghoriad.
Ar ôl ymgynghoriad
Ar gam hwn y prosiect, mae’r tîm yn paratoi papur polisi yn gofyn am gymeradwyaeth gan y Comisiynwyr ar gyfer eu hargymhellion terfynol arfaethedig. Bydd cynorthwywyr ymchwil yn helpu i baratoi’r papur hwn ac efallai y byddant yn rhan o’r broses o gyfarwyddo Cwnsleriaid Seneddol i ddrafftio Bil. Byddwch yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o baratoi a chyhoeddi’r adroddiad terfynol. Os bydd y Llywodraeth yn derbyn ein hargymhellion, efallai y byddwch yn ymwneud â chefnogi’r Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth i’r Senedd.
Bob amser
Mae’n ofynnol i gynorthwywyr ymchwil yng Nghomisiwn y Gyfraith ymateb yn hyblyg i ofynion amrywiol. Gallai hyn gynnwys gofyn i chi weithio ar wahanol brosiectau ar fyr rybudd, ymchwilio i faes cyfreithiol newydd neu ddelio ag ymholiad gan aelod o’r cyhoedd. Efallai y gofynnir i chi gyfrannu at waith ehangach y Comisiwn, er enghraifft, drwy gynorthwyo â gweithgareddau corfforaethol. Mae’r rôl hefyd yn cynnwys gwaith gweinyddol arferol fel cymryd cofnodion, trefnu cyfarfodydd, prawf ddarllen dogfennau a llungopïo. Yn benodol, byddwch yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o baratoi dogfennau ar gyfer eu cyhoeddi.
Mae cynorthwywyr ymchwil wastad yn brysur a disgwylir iddynt weithio’n galed, ond mae’r awyrgylch yn y swyddfa cynllun agored yn gyfeillgar, gydag oriau gwaith call a hyblyg. Bydd staff newydd yn cael sesiwn gynefino lawn ar ôl cyrraedd.
Dysgwch sut beth yw bod yn gynorthwyydd ymchwil yng Nghomisiwn y Gyfraith.
Cyflog a buddion
Fel cynorthwyydd ymchwil, gallwch ddisgwyl y buddion canlynol:
- cyflog blynyddol o £38,661 (yn seiliedig ar wythnos 37 awr, heb gynnwys egwyliau bwyd)
- 25 diwrnod o wyliau bob blwyddyn, ynghyd ag amser o’r gwaith gyda thâl ar gyfer gwyliau cyhoeddus ac 1 diwrnod braint â thâl
- cynllun gweithio hyblyg
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Telerau cyflogaeth
Cyfnod cyflogaeth
Bydd contractau cynorthwywyr ymchwil yn cael eu cynnig o fis Medi 2025 hyd at fis Awst 2027. Gall ymgeiswyr ddewis contract 1 blwyddyn os yw hynny’n well ganddynt.
Cyfnod Prawf
Ar gyfer gweithwyr ar gontract cyfnod penodol, mae’r cyfnodau prawf canlynol yn berthnasol:
Contract cyfnod penodol rhwng chwe mis ac un flwyddyn – Pedwar mis
Contract cyfnod penodol mwy nag un flwyddyn – Chwe mis
Bydd y penodiad yn cael ei gadarnhau ar yr amod bod gofynion arferol y swydd, presenoldeb ac ymddygiad wedi’u bodloni’n foddhaol yn ystod y cyfnod prawf.
Gweithgareddau allanol
Mae gweithwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan gynnwys Comisiwn y Gyfraith, yn ddarostyngedig i nifer o reolau sy’n effeithio ar y gallu i ymgymryd â gweithgareddau allanol penodedig. Er enghraifft, os ydych yn dymuno cyhoeddi deunydd (mewn unrhyw ffurf), addysgu neu gymryd rhan mewn gweithgareddau gwleidyddol yn ystod eich amser yng Nghomisiwn y Gyfraith, bydd angen i chi ystyried a yw’r gweithgareddau hyn yn cyd-fynd â dyletswyddau gweision sifil. Mewn rhai achosion, dim ond gydag awdurdod ymlaen llaw y gellir ymgymryd â gweithgareddau. Rydym yn hapus i roi arweiniad Comisiwn y Gyfraith i chi ar weithgareddau allanol cyn i chi wneud cais.
Bydd rhagor o wybodaeth am fuddion a thelerau ac amodau cyflogaeth yn cael ei darparu ar ôl cwblhau gwiriadau cyn cyflogi.