Skip to content

Y drefn ddethol

Y broses ddidoli

Bydd y ceisiadau’n cael eu hystyried gan banel dethol. Bydd y rheini nad ydynt yn bodloni’r meini prawf academaidd sylfaenol yn cael eu gwrthod yn awtomatig.

Os byddwn yn cael nifer fawr o geisiadau, bydd proses ddidoli gychwynnol yn cael ei chynnal ar sail y canlynol:

  • ymddygiad arweiniol: cyfathrebu a dylanwadu
  • technegol: ymchwil gyfreithiol

Cyfweliadau

Os yw eich cais yn bodloni’r sgiliau a’r gofynion hanfodol, byddwch yn cael eich gwahodd am gyfweliad.

Bydd y cyfweliad yn cynnwys cwestiynau am y canlynol:

  • ymddygiad – cyfathrebu a dylanwadu
  • profiadau – ymchwil gyfreithiol a sgiliau cyfreithiol
  • technegol – addasrwydd o ran cymhelliant personol

Byddwch yn cael gwybod am y maes/meysydd cyfreithiol yn eich gwahoddiad i gyfweliad.

Isod mae 2 fideo byr:

  1. canllaw i’ch helpu i baratoi ar gyfer y cwestiynau sy’n seiliedig ar ymddygiadau
  2. awgrymiadau defnyddiol ar gyfer cyfweliadau, dangos sut beth yw ein cyfweliadau, a dangos sgiliau cyfweld da a gwael

Disgwylir i’r cyfweliadau gael eu cynnal rhwng 2 Ebrill a 16 Ebrill 2024 (*dyddiadau i’w diweddaru) naill ai ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams neu wyneb yn wyneb. Os byddai’n well gennych gael cyfweliad wyneb yn wyneb, anfonwch e-bost at: recruitment@lawcommission.gov.uk

Bydd costau teithio safonol (trên, tiwb neu fws) o fewn y DU yn cael eu had-dalu, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich holl dderbynebau os byddwch yn dod i gyfweliad wyneb yn wyneb.

Bydd angen i chi hefyd ddod â thystiolaeth ddogfennol o bwy ydych chi, eich cyfeiriad, eich hawl i weithio a’ch cymwysterau. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhoi yn y gwahoddiad i gyfweliad.

Rydym yn gyflogwr Ymrwymedig Hyderus o ran Anabledd ac rydym wedi ymrwymo i roi cyfweliadau i ymgeiswyr sy’n llwyddo o ran y gofynion sylfaenol, gan gynnwys y Prawf Barnu Sefyllfa, ac sy’n anabl yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010 Lefel 1: Wedi ymrwymo i Hyderus o ran Anabledd. Mae Comisiwn y Gyfraith yn sicrhau cyfle teg a chyfartal i bawb sy’n dod i gyfweliad. Mae’r adeilad yn gwbl hygyrch.

Y Broses Benodi

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn dechrau ar eich gwiriadau cyn cyflogi. Bydd y rhain yn cynnwys gwiriadau diogelwch a hunaniaeth yn ogystal â gwirio eich hanes cyflogaeth blaenorol. Gall y gwiriadau hyn gymryd hyd at 12 wythnos felly mae’n bwysig ymateb i unrhyw geisiadau am wybodaeth cyn gynted â phosibl i sicrhau eich bod yn gallu dechrau yn y rôl yn brydlon.

Os ydych chi wedi byw y tu allan i’r DU am fwy na 6 mis, bydd angen i chi ddarparu tystysgrif ymddygiad da neu archwiliad heddlu tramor wedi’i gyfieithu i’r Saesneg o’r gwledydd rydych chi wedi byw ynddynt neu wedi ymweld â nhw.

Gweler rhagor o wybodaeth am archwiliadau cofnodion troseddol ar gyfer ymgeiswyr tramor.

Rhaid i chi hefyd fodloni gofynion y gwasanaeth sifil o ran cenedligrwydd.

Unwaith y byddwch wedi pasio gwiriadau cyn cyflogi, byddwn yn rhoi cynnig ffurfiol o benodiad i chi.

Ymgeiswyr wrth gefn

Os bydd nifer yr ymgeiswyr sy’n llwyddiannus yn y cyfweliad yn fwy na nifer y swyddi sydd ar gael, caiff rhai eu trin fel ymgeiswyr wrth gefn a byddwn yn cysylltu â nhw os bydd swyddi ar gael yn y dyfodol.