Fel rhan o’n hymrwymiad i amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant, ein polisi yw defnyddio iaith niwtral o ran rhywedd yn ein gwaith a’n gohebiaeth. Mae defnyddio iaith niwtral o ran rhywedd yn hybu cydraddoldeb rhywedd ac yn herio rhagdybiaethau rhagfarnllyd a stereoteipiau o ran rhywedd.
Mae Comisiwn y Gyfraith yn annog gohebwyr i roi’r gorau i ddefnyddio’r cyfarchiad “Annwyl Syr” ac yn hytrach cyfeirio gohebiaeth at y Comisiynydd perthnasol neu at dimau prosiect penodol. Neu, efallai y bydd gohebwyr yn dymuno defnyddio cyfarchiad cynhwysol mwy cyffredinol fel “At bawb y mae hyn yn berthnasol”, “Annwyl gyd-weithiwr”, “Annwyl Gomisiynydd” neu “Annwyl Gomisiwn y Gyfraith”.
Fel corff ymgynghorol, byddwn yn parhau i drin pob gohebiaeth yn gyfartal dim ots sut mae wedi cael ei chyfeirio.
Mae croeso i chi ohebu â ni yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
e-bost: enquiries@lawcommission.gov.uk
ffôn: 020 3334 0200
post: 1st Floor, Tower, 52 Queen Anne’s Gate, London SW1H 9AG
X (Twitter): @Law_Commission
Ar gyfer ymholiadau ynghylch y cyfryngau neu’r wefan:
e-bost: press.office@lawcommission.gov.uk
ffôn: 07743 178681 (Michael Duncan – Pennaeth Cyfathrebu)
Cyfraith Masnach a’r Gyfraith Gyffredin: commercialandcommon@lawcommission.gov.uk
Cyfraith Troseddol: criminal@lawcommission.gov.uk
Cyfraith Eiddo, Teulu ac Ymddiriedolaeth: propertyandtrust@lawcommission.gov.uk
Cyfraith Gyhoeddus a’r Gyfraith yng Nghymru: public@lawcommission.gov.uk neu welsh.law@lawcommission.gov.uk
Mae Comisiwn y Gyfraith yn annog gohebwyr i roi’r gorau i ddefnyddio ‘Annwyl Syr’ wrth gysylltu â’n timau, ac i ddefnyddio cyfarchiad mwy cynhwysol, niwtral o ran rhywedd yn lle, fel:
– At bawb y mae hyn yn berthnasol
– Annwyl Gomisiynydd
– Annwyl Gomisiwn y Gyfraith
Byddwn yn parhau i drin pob gohebiaeth yn gyfartal dim ots sut mae wedi cael ei chyfeirio.
Ni all Comisiwn y Gyfraith gynnig:
– cyngor cyfreithiol neu gymorth gydag achosion unigol
– cymorth gydag aseiniadau myfyrwyr
– cyngor ar sut gallai ein gwaith fod yn berthnasol i chi
Cysylltwch â Chyngor ar Bopeth (0800 144 8848) i gael cyngor cyfreithiol.
Gallwch chi ddod o hyd i gyfreithiwr drwy Gymdeithas y Cyfreithwyr.
Gwiriwch a allai eich achos fod yn gymwys i gael Cymorth Cyfreithiol.
Rydym yn darparu llawer o wybodaeth o dan y cynllun cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth.
Os na allwch chi ddod o hyd i gyhoeddiad penodol:
e-bostiwch: press.office@lawcommission.gov.uk
I wneud cais Rhyddid Gwybodaeth ffurfiol:
e-bostiwch: lawcom.foi@lawcommission.gov.uk
ysgrifennwch at: Freedom of Information, 1st Floor, Tower, 52 Queen Anne’s Gate, London SW1H 9AG
Rydyn ni’n cymryd pob cwyn o ddifrif ac yn anelu at ymateb cyn pen 20 diwrnod gwaith. Os na allwn wneud hynny, byddwn yn rhoi gwybod i chi am hynt eich cwyn. Os byddwn yn cadarnhau eich cwyn, byddwn yn cysylltu â chi i egluro sut rydyn ni’n ceisio unioni pethau.
I gwyno am aelod o staff neu am ein gweithdrefnau gweinyddol, e-bostiwch neu ysgrifennwch at Bennaeth y Gwasanaethau Corfforaethol:
e-bost: enquiries@lawcommission.gov.uk
post: 1st Floor, Tower, 52 Queen Anne’s Gate, London SW1H 9AG (gan gynnwys manylion y gŵyn a’ch enw a’ch cyfeiriad)
I gwyno am sut rydyn ni wedi delio ag ymgynghoriad, e-bostiwch neu ysgrifennwch at y Cydlynydd Ymgynghori:
e-bost: communications@lawcommission.gov.uk
post: 1st Floor, Tower, 52 Queen Anne’s Gate, London SW1H 9AG (gan gynnwys manylion y gŵyn a’ch enw a’ch cyfeiriad)
I gwyno am sut mae Comisiwn y Gyfraith wedi delio â chwyn, cysylltwch â’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.
I gwyno am ymarferydd cyfreithiol, fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr, cysylltwch â’r Ombwdsmon Cyfreithiol.
Mae ffordd wahanol o gwyno am farnwr, ynad, aelod o dribiwnlys neu grwner.