Mae gwerthoedd craidd Comisiwn y Gyfraith i’w gweld isod. Maent yn gwneud mwy na disgrifio’r hyn rydyn ni’n sefyll drosto – maent yn cyfleu’r hyn sy’n ein sbarduno ni o ran sut rydyn ni’n gweithio, a byddant yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau, siapio ein diwylliant, a dal ein hunain yn atebol i’r safonau rydym yn credu ynddynt.
Annibyniaeth: Rydym yn gweithredu’n annibynnol, yn wrthrychol a heb reolaeth gan y llywodraeth, pleidiau gwleidyddol, nac unrhyw gorff allanol. Mae ein hannibyniaeth yn sicrhau bod ein diwygiadau a’n hargymhellion yn ddiduedd, yn wrthrychol ac yn seiliedig yn gyfan gwbl ar ddiwygio’r gyfraith yn dda er budd cymdeithas.
Arbenigedd: Rydym yn gweithredu i sicrhau bod ein gwaith a’n hargymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil fanwl. Rydym yn gwerthfawrogi arbenigedd a diwydrwydd y bobl sy’n gweithio yng Nghomisiwn y Gyfraith, ac rydym yn mynd ati i chwilio am arbenigedd, profiad a safbwyntiau rhanddeiliaid a’r cyhoedd i lywio ein gwaith.
Uniondeb: Rydym yn gweithredu’n ddidwyll, yn onest ac yn ddiduedd wrth gyflawni ein dyletswydd statudol i ddiwygio’r gyfraith er mwyn gwella canlyniadau i bob grŵp mewn cymdeithas.