Law Commission Research Assistant webinar

Interested in becoming one of our next Research Assistants? Join our live webinar next week
Every year, the Law Commission recruits a number of research assistants to help make the law simple, modern and fair. We look for exceptional candidates from all backgrounds, all of whom have a passion for law reform.
Ahead of the launch of our 2025/26 research assistant recruitment campaign, we are holding a live event for all prospective applicants. The event will cover who we are at the Law Commission, the role of a research assistant, the application process, and some top tips for a successful application. There will also be an opportunity to hear from our current research assistants about their experiences, and to ask any questions.
Date: Wednesday 3 December 2024
Time: 4.30pm-6pm
Location: Online via MS Teams
Attendees can register for the event by filling out the registration form.
To access the event, please follow the “join event” button in the confirmation email that will be sent to you immediately after registering.
A recording of the event will be made available on YouTube. More information about the research assistant role can be found on our website on the research assistant page.
Please direct any questions to enquiries@lawcommission.gov.uk.
Testun uchod yn y Gymraeg:
Bob blwyddyn, bydd Comisiwn y Gyfraith yn recriwtio nifer o gynorthwywyr ymchwil i helpu i wneud y gyfraith yn syml, yn fodern ac yn deg. Byddwn yn chwilio am ymgeiswyr eithriadol o bob cefndir, pob un yn frwd dros ddiwygio’r gyfraith.
Cyn lansio ein hymgyrch i recriwtio cynorthwywyr ymchwil yn 2024/25, rydyn ni’n cynnal digwyddiad byw i bob darpar ymgeisydd. Bydd y digwyddiad yn egluro pwy ydym ni yng Nghomisiwn y Gyfraith, rôl cynorthwyydd ymchwil, y broses ymgeisio, a rhai awgrymiadau defnyddiol i gyflwyno cais llwyddiannus. Bydd cyfle hefyd i glywed gan ein cynorthwywyr ymchwil presennol am eu profiadau, ac i ofyn unrhyw gwestiynau.
A fyddech gystal â hysbysebu’r digwyddiad hwn ymysg eich holl fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn y gyfraith.
Dyddiad: Dydd Mercher 3 Rhagfyr 2025
Amser: 4.30pm-6pm
Lleoliad: Ar-lein drwy MS Teams
Gall unigolion gofrestru am y digwyddiad drwy lenwi’r ffurflen gofrestru.
I ymuno â’r digwyddiad, dilynwch y botwm “join event” yn yr e-bost cadarnhau a fydd yn cael ei anfon atoch yn syth ar ôl i chi gofrestru.
Bydd recordiad o’r digwyddiad ar gael ar YouTube. Mae rhagor o wybodaeth am rôl cynorthwyydd ymchwil ar gael ar ein gwefan.
Anfonwch unrhyw gwestiynau i enquiries@lawcommission.gov.uk.