Skip to content

All content is available under the Open Government Licence v3.0, except where otherwise stated.

To view this licence, visit:
https://nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3

or write to:
Information Policy Team,
The National Archives,
Kew,
London TW9 4DU

or email: psi@nationalarchives.gov.uk.

This publication is available at:
https://lawcom.gov.uk.

Cyfraith cynllunio yng Nghymru

Aerial overhead view of houses in the Welsh Valley of Blaenau Gwent.

Rydym yn argymell bod Cod Cynllunio newydd yn cael ei greu ar gyfer Cymru sy’n gynhwysfawr ond yn symlach. Rydym wedi dadansoddi’r ymatebion i’n Papur Ymgynghori, ac wedi cyhoeddi adroddiad terfynol, a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ac a osodwyd yn Senedd y DU ac yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar 30 Tachwedd 2018. Cafwyd ymateb llawn gan Lywodraeth Cymru ym Mis Tachwedd 2020.

Broblem (Back to top)

Mae cyfraith cynllunio yng Nghymru yn rhy gymhleth ac, mewn mannau, yn rhy anodd i’w deall.

Nid yw’r ddeddfwriaeth wedi cael ei chydgrynhoi ers Deddf Cynllunio Gwlad a Thref, 1990 ac mae newidiadau tameidiog wedi cael eu gwneud i’r gyfraith ers hynny – gan gynnwys Deddf Cynllunio a Digolledu 2004 a Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.

Yn ogystal â hyn, mae’n dod yn fwyfwy anodd nodi beth yw cyfraith cynllunio Cymru mewn gwirionedd.Gall deddfwriaeth newydd (a wneir yn y Cynulliad neu’r Senedd) fod yn gymwys i Gymru yn unig, Lloegr yn unig, neu Gymru a Lloegr. Mae hyn yn creu system fwy cymhleth fyth.

Ac mae nifer o fannau lle y gellid gwneud y gyfraith yn gliriach, neu lle y gellid dileu darpariaethau diangen.

Prosiect (Back to top)

Fel rhan o’n 12fed raglen ar ddiwygio’r gyfraith, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Gomisiwn y Gyfraith ystyried y ffordd y mae’r system rheoli datblygu yn cael ei gweithredu.  Roedd hyn hefyd yn dilyn ein hadroddiad cynharach ar Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru.

Daethom i’r casgliad nad oedd angen newidiadau sylweddol pellach i bolisïau yn y maes hwn, ond ei bod yn amlwg bod angen i gyfraith cynllunio yng Nghymru gael ei symleiddio a’i moderneiddio.  Cyhoeddwyd papur cwmpasu gennym ym mis Mehefin 2016, yn nodi ein cynigion cychwynnol ar ymarfer cydgrynhoi a diwygio posibl.

Yna, ystyriodd y Comisiwn welliannau posibl i’r ddeddfwriaeth, er mwyn adlewyrchu sut mae’r system yn gweithio’n ymarferol.Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddwyd Papur Ymgynghori llawn gennym, yn nodi ein casgliadau o ran cwmpas y prosiect ac yn amlinellu dros 180 o gynigion ar gyfer diwygiadau technegol. Aethom ati i ddosbarthu hwn ei yn eang, a dechrau ar ymgynghoriad mawr.  O ganlyniad, cawsom dros 160 o ymatebion.

Adroddiad Terfynol

Rydym wedi ailystyried ein cynigion, yng ngoleuni’r ymatebion hynny, ac rydym bellach wedi cyhoeddi Adroddiad Terfynol,yn cynnwys 193 o argymhellion. Cyhoeddwyd hwn ym mis Tachwedd 2018.  Bydd yn ffurfio rhan o’r sylfaen dystiolaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei hystyried wrth symleiddio a chydgrynhoi deddfwriaeth gynllunio yng Nghymru – a fydd, gobeithio, yn arwain at osod Bil gerbron y Cynulliad yn ystod y tymor Cynulliad hwn.

Gweler isod ymateb llawn Llywodraeth Cymru i’r Adroddiad.

Dogfennau (Back to top)

Adroddiad

Adroddiad Terfynol llawn

Lawrlwythwch benodau unigol o’r Adroddiad Terfynol

Adroddiad Terfynol Crynodeb

Ymateb Manwl Llywodraeth Cymru i Adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Gyfraith Cynllunio yng Nghymru

Ymateb Manwl I’r Adroddiad Ar Gyfraith Cynllunio Yng Nghymru

Ymateb Manwl Llywodraeth Cymru I Adroddiad Comisiwn Y Gyfraith Ar Gyfraith Cynllunio Yng Nghymru

Mai 2019 – Ymateb interim gan Lywodraeth Cymru

Ymatebion i’r Papur Ymgynghori (Saesneg yn unig)

Adroddiad Terfynol – Asesiad o’r Effaith (Saesneg yn unig)

Ymgynghori

Papur Ymgynghori Llawn

Papur Ymgynghori (Crynodeb)

Dadansoddiad ymatebion (Saesneg yn unig)

Papur Cwmpasu Cyfraith Cynllunio yng Nghymru

Papur Cwmpasu ar Gyfraith Gynllunio yng Nghymru (Crynodeb)

Manylion cyswllt (Back to top)

Er mwyn cael copi papur o’r adroddiad terfynol, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, anfonwch e-bost at: Planning_wales@lawcommission.gsi.gov.uk neu cynllunio_cymru@lawcommission.gsi.gov.uk.