Rydym am sicrhau bod y gyfraith yn deg, yn fodern, yn syml ac yn gost-effeithiol. Er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid i ni groesawu amrywiaeth a chynhwysiant – mewn perthynas â’r rheini rydym yn gweithio gyda nhw a hefyd wrth wneud argymhellion i’r llywodraeth.
Ein nodau yw:
- creu gweithlu amrywiol ar draws pob lefel yn y sefydliad
- creu gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u gwerthfawrogi
- defnyddio ein safle i helpu pobl o gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn y gyfraith i ddilyn gyrfa gyfreithiol
- sicrhau bod ein hargymhellion i ddiwygio’r gyfraith yn deillio o ddealltwriaeth gadarn o wahanol brofiadau cymunedau ledled Cymru a Lloegr
Mae ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant yn gofyn i’n cyflogeion greu gweithle sy’n dathlu ein hamrywiaeth ac yn ei werthfawrogi fel rhywbeth sy’n hanfodol i’n llwyddiant.
Darllenwch am y cynlluniau amrywiaeth rydym wedi’u rhoi ar waith i ddenu ymgeiswyr.