Skip to content

Current vacancies

This page displays current vacancies at the Law Commission.

Law Commissioner roles are advertised on the apply for a public appointment website.

Vacancies

Job title: Special Counsel for Wales
Grade: 6
Salary: £71,381- £80,419
Closing date for applications: 3/11/2025

We are looking for an experienced lawyer to join the Law Commission as Special Counsel for Wales; an exciting new position intended to promote the Law Commission’s work in Wales. We are looking for an outstanding candidate to influence our strategy, make an immediate impact and create a legacy for high-quality law reform in Wales.

This specialist position provides a unique opportunity to strengthen and develop the Law Commission’s relationships with key stakeholders in Wales across the Welsh Government, the Senedd and the legal and third sector, and contribute to the development of the law in Wales.

The successful candidate will work closely with the Law Commissioner for the Public Law and Law in Wales Team, as well as the Head of Legal, to provide targeted leadership and support the selection, development and management of law reform projects on devolved law. The Law Commissioner will remain responsible for all projects, with the team lawyer assigned to a project leading day to day work on each project.

The closing date for applications is Monday 3 November 2025.

For more detail about the role and how to apply, please visit: Law Commission: Special Counsel for Wales – 10881 – Ministry of Justice

Teitl y Swydd: Cwnsler Arbennig Cymru
Gradd: 6
Cyflog: £71,381- £80,419
Dyddiad Cau: 3/11/2025

Rydym yn chwilio am gyfreithiwr profiadol i ymuno â Chomisiwn y Gyfraith fel Cwnsler Arbennig Cymru; swydd newydd gyffrous gyda’r bwriad o hybu gwaith Comisiwn y Gyfraith yng Nghymru. Rydym yn chwilio am ymgeisydd rhagorol i ddylanwadu ar ein strategaeth, i greu effaith yn syth, ac i greu gwaddol drwy gyflwyno diwygiadau o ansawdd uchel i’r gyfraith yng Nghymru.

Mae’r swydd arbenigol hon yn gyfle unigryw i gryfhau a datblygu cysylltiadau Comisiwn y Gyfraith â rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru ar draws Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru, a’r sector cyfreithiol a’r trydydd sector, ac i gyfrannu at ddatblygu’r gyfraith yng Nghymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n ofalus gyda Thîm Comisiynydd y Gyfraith ar gyfer Cyfraith Gyhoeddus a’r Gyfraith yng Nghymru, yn ogystal â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, er mwyn darparu arweinyddiaeth bwrpasol a helpu’r broses o ddethol, datblygu a rheoli prosiectau diwygio’r gyfraith sy’n ymwneud â chyfraith ddatganoledig. Comisiynydd y Gyfraith fydd yn dal yn gyfrifol am bob prosiect, gyda chyfreithiwr y tîm yn cael ei neilltuo i brosiect sy’n arwain y gwaith o ddydd i ddydd ar bob prosiect.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Llun 3 Tachwedd 2025

I gael rhagor o fanylion am y rôl a sut i wneud cais, ewch i’r dudalen: Law Commission: Special Counsel for Wales – 10881 – Ministry of Justice