Skip to content

Cyhoeddiadau prosiect

Gweler amrywiaeth o ddogfennau Cymraeg a gyhoeddir gan Gomisiwn y Gyfraith ar y dudalen hon.

Gweler yr holl cyhoeddiadau prosiect (Saesneg) yma.

Am ddogfennau cynharach, ewch i’n gwefan sydd wedi’i harchifo.

83 publications

Cyfraith Amaethyddol yng Nghymru: Cylch Gorchwyl

Adolygu’r gyfraith sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth yng Nghymru gyda’r nod o amlinellu ffurf a chynnwys ar gyfer Cod cyfraith amaethyddol i Gymru, ac argymell sut y gellir symleiddio a moderneiddio’r gyfraith er mwyn ei gwneud yn fwy hygyrch.

Prynu gorfodol: crynodeb o’r papur ymgynghori

Mae’r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (sef yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau gynt) wedi gofyn i Gomisiwn y Gyfraith adolygu’r gyfraith ar brynu gorfodol.

Rhwymedïau ariannol – Crynodeb or adroddiad cwmpasu

Mae’r Crynodeb hwn yn egluro beth yw’r prosiect ac yn tynnu sylw at ein prif gasgliadau a’r pedwar model a nodwyd gennym, ac a allai fod yn sail i unrhyw ddiwygiadau i’r gyfraith rhwymedïau ariannol yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw’n crynhoi ein holl Adroddiad Cwmpasu.

Tenantiaethau Busnes: yr hawl i adnewydduCrynodeb o Bapur Ymgynghori 1

Rydym yn ymgynghori ar yr hawl gyfreithiol i denantiaid busnes gael tenantiaeth arall pan fydd eu tenantiaeth bresennol yn dod i ben, ar yr amod bod y landlord yn gallu gwrthwynebu hynny am nifer cyfyngedig o resymau. Gelwir yr hawl yn “ddiogelwch deiliadaeth”.

Claddu ac Amlosgi: Crynodeb o’r Papur Ymgynghori

Dyma grynodeb o’r ymgynghoriad ynghylch ein cynigion dros dro i ddiwygio’r gyfraith lywodraethol claddu ac amlosgi.

Adolygiad o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014

Cynigion i ddiwygio Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014.

Dirmyg Llys: Crynodeb o’r Papur Ymgynghori

Bwriad y crynodeb hwn yw rhoi trosolwg o’r materion allweddol rydym yn eu trafod yn ein papur ymgynghori Dirmyg Llys. Mae’n egluro beth yw pwrpas y prosiect a’r materion rydym yn rhoi sylw iddynt.

Awtonomi ym maes hedfan: crynodeb o’r papur ymgynghori a trosolwg

Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil, a’r Adran Drafnidiaeth wedi gofyn i Gomisiwn y Gyfraith adolygu fframwaith rheoleiddio’r DU i baratoi’r DU ar gyfer awtonomi ym maes hedfan.

Gwneud ewyllys: crynodeb papur ymgynghori ategol

Mae’r Papur Ymgynghori Ategol hwn yn ail-ymgynghoriad ar ddau fater ar wahân: ewyllysiau electronig a’r rheol bod priodas neu bartneriaeth sifil yn dirymu ewyllys presennol.

Apeliadau troseddol: crynodeb o’r papur materion

Bwriad y crynodeb hwn yw rhoi trosolwg o’r materion allweddol rydym yn eu trafod yn ein papur materion Apeliadau Troseddol. Mae’n egluro beth yw pwrpas y prosiect a’r materion rydym yn rhoi sylw iddynt.