
Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2026 – sy’n gweithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith – wedi cwblhau ei thaith drwy Senedd Cymru ac wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 27ain o Ebrill 2026. Mae fersiwn lawn o’r Ddeddf ar gael ar wefan y Senedd. Bydd Deddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) 2026 hefyd yn dod i rym ar yr un dyddiad, gan gyflwyno diwygiadau technegol a diddymiadau sy’n gwella gweithrediad cyfraith cynllunio.
Mae Deddf 2026 yn dwyn ynghyd y corff o gyfraith gynllunio yng Nghymru a arferai fod yn dameidiog ac yn ei ailddatgan mewn Deddf glir, fodern a dwyieithog gan y Senedd. Er nad yw’r Ddeddf yn diwygio’r system gynllunio yng Nghymru yn sylweddol, mae’n gwella hygyrchedd y gyfraith drwy gyfuno’r ddeddfwriaeth sylfaenol berthnasol yn un cod cydlynol o gyfraith Cymru.
Wrth wneud hynny, mae Deddf 2026 yn sefydlu’r cod cyfraith cynllunio cyntaf i Gymru. Mae ei deddfu yn garreg filltir bwysig yn y rhaglen ehangach i wella hygyrchedd cyfraith Cymru drwy brosesau cydgrynhoi a chodeiddio. Mae’r rhaglen hon, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, yn gweithredu argymhellion cynharach Comisiwn y Gyfraith ar ffurf a hygyrchedd y gyfraith sy’n berthnasol yng Nghymru. Yn ogystal, mae rhestr o dermau Saesneg a Chymraeg yn y Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2026 a’r Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 wedi cael ei greu i helpu gyda dealltwriaeth a hygyrchedd y Deddfau yma.
Wrth drafod y ddeddfwriaeth cyn y bleidlais derfynol yn y Senedd, cydnabyddiwyd cyfraniad Comisiwn y Gyfraith yn ffurfiol, gan bwysleisio’r dadansoddiad manwl sy’n sail i adroddiad y Comisiwn ar Gyfraith Cynllunio yng Nghymru. Pwysleisiodd trafodaeth Cyfarfod Llawn Senedd Cymru y berthynas waith gref rhwng Comisiwn y Gyfraith a Llywodraeth Cymru, a’u hymrwymiad ar y cyd i resymoli ac i foderneiddio’r gyfraith yng Nghymru.
Mae Comisiwn y Gyfraith yn parhau i fuddsoddi yn ei gysylltiadau ledled Cymru ac mae wedi penodi Cwnsler Arbennig i Gymru, Dr Nerys Llewelyn Jones. Mae gan Dr Llewelyn Jones lawer o brofiad o ddylanwadu ar ddatblygu a diwygio’r gyfraith yng Nghymru drwy nifer o swyddi gan gynnwys fel aelod o’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a’i rolau blaenorol fel Cadeirydd Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru ac Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am waith Comisiwn y Gyfraith yng Nghymru ar gael yma: Ein gwaith yng Nghymru.