Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on lawcom.gov.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Skip to content

Ein strwythur

Bwrdd Comisiwn y Gyfraith

Y Bwrdd sy’n gyfrifol am lywodraethu strategol ac mae’n cynnwys:

  • Cadeirydd – barnwr Uchel Lys neu Lys Apêl, a benodwyd i’r Comisiwn gan yr Arglwydd Ganghellor
  • 4 Comisiynydd – barnwyr, bargyfreithwyr, cyfreithwyr neu athrawon cyfreithiol profiadol, a benodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor am hyd at 5 mlynedd, a gellir eu hadnewyddu unwaith
  • Prif Weithredwr Comisiwn y Gyfraith
  • hyd at 3 aelod anweithredol o’r bwrdd – sy’n darparu cefnogaeth, her annibynnol ac arbenigedd ar faterion llywodraethu a rheolaeth strategol

Gall y Cadeirydd neu’r Prif Weithredwr wahodd eraill i fynychu’r Bwrdd ar sail ad hoc.

Cefnogir y Comisiynwyr gan staff Comisiwn y Gyfraith. Mae’r staff yn weision sifil ac yn cael eu harwain gan ein dau Brif Weithredwr ar y cyd, Joanna Otterburn a Roshnee Patel.

Gweld rhestr o’n holl gomisiynwyr blaenorol.

Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith llywodraethu a gwneud penderfyniadau ar gael yn ein:

Gweler cofnodion cyfarfodydd sy’n mynd yn ôl i 2015 ar yr Archifau Cenedlaethol.

Gofynnwch am gofnodion hŷn drwy anfon e-bost at: lawcom.foi@lawcommission.gov.uk

Ein pobl

Cadeirydd

Mae’r Cadeirydd yn hyrwyddo rôl a gwaith Comisiwn y Gyfraith ac ef/hi yw ei brif wyneb cyhoeddus. Mae ef/hi yn arwain y Comisiynwyr ac yn cyflwyno’u barn i Weinidogion a rhanddeiliaid eraill. Mae’r Cadeirydd hefyd yn arwain ar brosiectau penodol i ddiwygio’r gyfraith ac mae ganddo gyfrifoldeb arbennig dros oruchwylio gwaith atgyfnerthu a diddymu cyfraith statud y Comisiwn.

Syr Peter Fraser

Penodwyd Syr Peter yn Gadeirydd ar 1 Rhagfyr 2023. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Harrogate yn Swydd Efrog ac yng Ngholeg St John ym Mhrifysgol Caergrawnt (lle astudiodd MA yn y Gyfraith a LL.M). Cafodd ei alw i’r Bar ym 1989 gan y Middle Temple a bu’n ymarfer o’r Atkin Chambers rhwng 1990 a 2015 pan gafodd ei benodi i Adran Mainc y Brenin. Fel bargyfreithiwr, arbenigodd mewn cyflafareddu rhyngwladol, technoleg, peirianneg ac anghydfodau adeiladu. Cafodd ei benodi’n Gofiadur Llys y Goron yn 2002 ac yn QC yn 2009. Mae’n eistedd fel barnwr yn y Llys Technoleg ac Adeiladwaith (lle’r oedd yn Brif Farnwr rhwng 2017 a 2020) a’r Llys Masnach.

Comisiynwyr

Yr Athro Alison Young

Penodwyd yr Athro Young yn Gomisiynydd y Gyfraith gyda chyfrifoldeb dros gyfraith gyhoeddus a’r gyfraith yng Nghymru ar 18 Mawrth 2023. Hi yw Athro Cyfraith Gyhoeddus Syr David Williams ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac mae’n Gymrawd Coleg Robinson. Mae hefyd yn gydymaith academaidd yn 39 Essex Chambers ac yn Gymrawd Emeritws yng Ngholeg Hertford, Rhydychen.

Cyn ymuno â Phrifysgol Caergrawnt, astudiodd ar gyfer gradd yn y Gyfraith (gyda Ffrangeg) ym Mhrifysgol Birmingham, gan dreulio blwyddyn yn yr Université de Limoges. Yna cwblhaodd y BCL a D Phil yng Ngholeg Hertford, Prifysgol Rhydychen. Treuliodd dair blynedd fel Cymrawd Tiwtorial yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, cyn dychwelyd i Hertford fel Cymrawd y Gyfraith ac yn ddiweddarach fel Athro Cyfraith Gyhoeddus ym Mhrifysgol Rhydychen.

Yr Athro Nicholas Hopkins

Penodwyd yr Athro Hopkins yn Gomisiynydd y Gyfraith dros gyfraith eiddo, teulu ac ymddiriedolaeth ar 1 Hydref 2015. Ar 27 Mai 2020, cyhoeddwyd ei fod wedi cael ei ailbenodi am dymor arall ac y bydd yn gwasanaethu tan fis Medi 2025. Ymysg prosiectau eraill, mae wedi arwain gwaith y Comisiwn ar Ddiweddaru Deddf Cofrestru Tir 2002, Materion Technegol mewn Cyfraith Elusennau, Gorfodi Gorchmynion Ariannol Teulu a chyfraith Priodasau. Mae’r prosiectau sydd ar y gweill yn cynnwys Lesddaliadau Preswyl a Chyfunddaliad, Gwneud Ewyllys a Benthyg Croth (prosiect ar y cyd â Chomisiwn y Gyfraith yn yr Alban). Cyn cael ei benodi’n Gomisiynydd, roedd yn academydd am dros 20 mlynedd.

Mae’r Athro Hopkins yn Athro yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Reading ac yn Feinciwr Anrhydeddus Middle Temple.

Yr Athro Penney Lewis

Penodwyd yr Athro Lewis yn Gomisiynydd y Gyfraith dros gyfraith trosedd ar 1 Ionawr 2020. Roedd yr Athro Lewis yn arfer bod yn Athro’r Gyfraith ac yn Gyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Cyfraith Feddygol a Moeseg yn Ysgol y Gyfraith Dickson Poon, Coleg y Brenin Llundain. Daeth yn Ddarllenydd yn y Gyfraith yn 2005, ac yn Athro’r Gyfraith yn 2007.

Mae’n aelod o Fwrdd yr Awdurdod Meinweoedd Dynol. Mae ei hymchwil yn ymdrin â thystiolaeth a gweithdrefnau troseddol, gan ganolbwyntio ar erlyniadau am achosion hanesyddol o gam-drin rhywiol yn ystod plentyndod a’r gyfraith sy’n llywodraethu tystiolaeth ategol. Mae hefyd wedi cyhoeddi’n eang ym maes cyfraith feddygol, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y berthynas rhwng cyfraith trosedd a meddygaeth.

Aelodau anweithredol o’r bwrdd

Y Farwnes Shaista Gohir

Mae’r Farwnes Gohir wedi bod yn gweithio yn y sector elusennol ers bron i ugain mlynedd ac mae’n ymgyrchydd blaenllaw dros hawliau menywod. Hi yw Prif Swyddog Gweithredol yr elusen genedlaethol Muslim Women’s Network UK ac, yn 2022, fe’i penodwyd yn Gymheiriad y Croesfeinciau yn Nhŷ’r Arglwyddi.  

Mae Shaista wedi gwasanaethu ar amrywiol grwpiau a byrddau cynghori cenedlaethol a rhyngwladol ac roedd yn arfer bod yn Gyfarwyddwr Anweithredol yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Athrofaol Gogledd Canolbarth Lloegr lle’r oedd yn Hyrwyddwr Beichiogrwydd Diogel. Hi hefyd oedd Arweinydd Lleisiau Menywod yng Ngholeg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr.

Claire Bassett

Mae Claire yn Is-gadeirydd Internet Watch Foundation, Cadeirydd Dros Dro a Chyfarwyddwr Anweithredol y Swyddfa Twyll Difrifol, ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a’r Sefydliad Yswiriant Siartredig. 

Tan fis Mai 2022 hi oedd Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol y Swyddfa Annibynnol dros Ymddygiad yr Heddlu. Cyn hyn, Claire oedd Prif Weithredwr (Darpar) yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach Cysgodol, a Phrif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol. Mae Claire hefyd wedi bod yn Brif Weithredwr y Bwrdd Parôl a’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol.  

Yn gynharach yn ei gyrfa, roedd Claire yn Gyfarwyddwr Nacro ac yn Brif Weithredwr Connexions Milton Keynes, Swydd Rydychen a Swydd Buckingham. Roedd hefyd wedi ymgymryd â rolau amrywiol yn y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol a dechreuodd ei gyrfa fel hyfforddai rheoli yn y diwydiant adeiladu. 

Dr Hannah White

Ar hyn o bryd Dr Hannah White yw Cyfarwyddwr a Phrif Weithredwr yr Institute of Government, ar ôl arwain ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (Swyddfa’r Cabinet), ac mae wedi dal nifer o swyddi uwch yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae ganddi brofiad amrywiol ar fyrddau gweithredol ac anweithredol.   

Mae ganddi PhD mewn Daearyddiaeth Ddynol. Dechreuodd ei gyrfa fel clerc seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin, gan weithio ar bwyllgorau dethol a deddfwriaethol a chynghori ar weithdrefnau seneddol. 

Prif Weithredwr

Mae Joanna Otterburn a Roshnee Patel yn Brif Weithredwyr ar y cyd ar gyfer y Comisiwn.

Joanna Otterburn

Ers cymhwyso fel cyfreithiwr, mae Joanna wedi bod yn Gynorthwyydd Barnwrol yn y Llys Apêl, Ysgrifennydd Preifat i Ganghellor yr Uchel Lys a’r Uwch Farnwr Llywyddol, ac yn gynghorydd i’r uwch farnwriaeth a gweinidogion y llywodraeth ar bolisïau sensitif, heriol ac arloesol. Roedd Joanna yn ynad yn Ne-ddwyrain Llundain cyn mynd i’r Swyddfa Ymchwiliadau Ymddygiad Barnwrol.

Roshnee Patel

Cyn ymuno â Chomisiwn y Gyfraith, roedd Roshnee yn gweithio fel Dirprwy Gyfarwyddwr yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF ac mae ganddi brofiad o weithio ar draws amrywiol adrannau gan gynnwys y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Swyddfa Gartref a Swyddfa’r Cabinet.