Skip to content

Proffiliau cynorthwywyr ymchwil presennol

English

Pob blwyddyn, mae ein cynorthwywyr ymchwil yn dod o ardaloedd a chefndiroedd gwahanol. Darganfod mwy am rhai o gynorthwywyr ymchwil blwyddyn yma, a beth maen nhw yn meddwl am y swydd, yma.

Marianne Holbrook

Tîm: Cyfraith Droseddol

Prosiect: Dirmyg Llys

Profiad gwaith blaenorol: Bûm yn intern yn y Cenhedloedd Unedig a bûm yn gwirfoddoli gyda nifer o gyrff anllywodraethol a sefydliadau ymgyfreitha er budd y cyhoedd yn Ne Affrica. Yn ddiweddarach, bu imi gwblhau hyfforddiant clerciol barnwrol yn Llys Cyfansoddiadol De Affrica a gweithio fel ymchwilydd cyfreithiol ar gyfer un o farnwyr Uchel Lys De Affrica. Cyn imi ymuno â Chomisiwn y Gyfraith, bûm yn gweithio i gwmni cyfreithiol yn Llundain sy’n arbenigo yn y gyfraith hawliau dynol, lloches a mewnfudo.

Beth yw’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol? 

Hoffwn barhau i weithio ym maes ymchwil gyfreithiol a/neu ddatblygu rhyngwladol.

Soniwch wrthym am ddarn diweddar o waith: 

Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi bod yn drafftio pennod ar gyfer ein papur ymgynghori. Roedd hyn wedi cynnwys llawer o waith ymchwil ac ysgrifennu. Roedd cydweithio â’m rheolwr llinell i roi’r bennod at ei gilydd yn gyfle gwych imi ddysgu, ac mae’n sicr bod fy arddull ysgrifennu wedi gwella yn sgil hynny. Bydd y tîm yn trafod y materion polisi sy’n codi yn y bennod dros yr wythnosau nesaf ac, ar ôl hynny, byddaf yn cynorthwyo i baratoi’r bennod i’w chyhoeddi.

Pam y byddech chi’n argymell gweithio i’r Comisiwn? 

Rwyf wrth fy modd â’m swydd. Nid wyf yn adnabod llawer o bobl sy’n gallu dweud hynny. Mae’r diwylliant yn anhygoel. Mae’r bobl yn parchu’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac maen nhw’n garedig ac yn gefnogol. Drwy drefniadau gweithio hybrid ac oriau hyblyg, gallwch wneud i’ch swydd weithio i chi. Mae’r gwaith hwn hefyd yn rhoi llawer o foddhad, oherwydd rydych yn gwybod ei fod yn gwneud gwahaniaeth. Mae digon o gyfle i ysgwyddo cyfrifoldebau ac i’ch herio eich hun. Mae Comisiwn y Gyfraith yn lle unigryw i ddysgu ac i ddatblygu fel cyfreithiwr ifanc ac, fel sefydliad uchel ei barch, mae’r Comisiwn yn bont wych at gyfleoedd yn y dyfodol.

Y peth gorau am weithio i Gomisiwn y Gyfraith: 

Yn bersonol, rwyf wrth fy modd yn trin a thrafod cyfraith “amrwd”. Rwyf wrth fy modd yn gwneud ymchwil gyfreithiol, yn drafftio, yn cael cyfle i ystyried problemau cyfreithiol, yn trin a thrafod syniadau o fewn y tîm, yn ystyried eto, yn gwneud ychydig mwy o ymchwil, yn adolygu’r drafft. Mae’r swydd hon yn eithaf gwahanol o ran ei natur a’i chyflymder i’m gwaith blaenorol ym maes ymarfer cyfreithiol, lle’r oeddwn yn teimlo dan straen y rhan fwyaf o’r amser ac yn teimlo nad oeddwn yn gweithio’n agos â’r gyfraith ei hun. Rwy’n credu bod cael swydd ym myd y gyfraith sy’n rhoi cymaint o gyfle i rywun adolygu’r gyfraith, meddwl yn feirniadol, a datblygu syniadau yn bur anarferol.

Sut y bu ichi glywed am y swydd? 

Un o’m hasesiadau gradd israddedig oedd ymateb i un o bapurau ymgynghori Comisiwn y Gyfraith, yn cynnig datrysiadau o ran diwygio’r gyfraith. Pan oeddwn yn ymchwilio i rôl y cynorthwyydd ymchwil ac yn mynd drwy’r broses o wneud cais, cefais fy argyhoeddi’n gynyddol fod ymuno â’r Comisiwn yn gyfle unigryw dros ben.

Sut brofiad oedd y broses o wneud cais? 

Roedd y broses o wneud cais yn bur ddwys. Mae’n cynnwys sawl cam, felly mae’r broses gyfan yn para sawl mis. Ac mae pob cam yn bur heriol. Wedi dweud hynny, gan fod y broses mor drylwyr, roeddwn yn hyderus fy mod wedi cael digon o gyfleoedd i arddangos gwahanol sgiliau a chymwyseddau, rhywbeth nad ydych bob amser yn ei gael pan fyddwch yn gwneud cais am swydd. Mae adnoddau defnyddiol iawn (y “Canllaw i Ymgeiswyr”, templed CV, a fideos gydag awgrymiadau ar gyfer cyfweliadau) ar gael ar wefan y Comisiwn, ac roedd y rhain yn egluro’r broses ac yn rhoi cyfle imi ganolbwyntio ar gynnwys fy nghais.

Awgrymiadau i ymgeiswyr: 

Mae hon yn broses ymgeisio gythreulig o gystadleuol. Mae hyn yn golygu bod angen ichi baratoi (ni allwch fynd drwy’r broses hon ar antur). Mae hefyd yn golygu ei bod yn bosibl na chewch gynnig y swydd y tro cyntaf y byddwch yn gwneud cais. Ymgeisiais sawl gwaith cyn imi gael cynnig swydd ac rwy’n gwybod bod hyn yn wir am rai o’m cydweithwyr hefyd. Rwy’n eich cynghori i ddal ati ac i beidio â digalonni os na chewch chi gynnig ar unwaith. Rhowch gynnig arall, cryfach arni yn y cylch recriwtio nesaf! (Mae’r Comisiwn yn recriwtio bob blwyddyn.) Mae’n ffordd o brofi i’r panel cyfweld bod diwygio’r gyfraith o bwys go iawn i chi, ac mae’n gyfle ichi feithrin eich sgiliau ac ennill mwy o brofiad yn y cyfamser. Pan na chefais gynnig swydd, es i Dde Affrica a chwblhau hyfforddiant clercio barnwrol lle bûm yn gweithio, fel yr oedd yn digwydd, ar ddyfarniad dirmyg llys mawr – nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod hyn wedi talu ar ei ganfed pan fu imi wneud cais i ymuno â phrosiect dirmyg llys y tîm cyfraith droseddol.

Gan fod y broses mor gystadleuol, gallwch hefyd fod yn bur falch ohonoch eich hun pan gewch chi’r swydd! Dyfal donc a dyrr y garreg.

Georgina Withers-Boalch

Tîm: Cyfraith Gyhoeddus a’r Gyfraith yng Nghymru

Prosiect: Y gyfraith amaethyddol yng Nghymru. Rwyf hefyd yn cynorthwyo â materion corfforaethol sy’n ymwneud â Chymru.

Profiad gwaith blaenorol: Yn ystod fy ngradd israddedig, fe wnes i ymgymryd â phrofiad gwaith fel cysgodi barnwr, cynllun gwaith gyda bargyfreithwyr , a chynlluniau pro bono. Y tu hwnt i’m profiad ym maes y gyfraith, bûm yn gweithio ym maes lletygarwch ac yn diwtor preifat. Yn union cyn imi ymuno â Chomisiwn y Gyfraith, cefais brofiad fel cynorthwyydd ymchwil gydag athro yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL).

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol: 

Fy mwriad yw cwblhau cwrs y Bar a chymhwyso fel bargyfreithiwr.

Ble y bu ichi glywed am y swydd? 

Cafodd swydd y cynorthwyydd ymchwil ei hysbysebu yn un o gylchlythyrau’r brifysgol. Fodd bynnag, yn ystod fy nghwrs israddedig, roeddwn wedi clywed un o’m darlithwyr, a oedd hefyd yn gyn-Gomisiynydd, yn sôn am Gomisiwn y Gyfraith.

Sut brofiad oedd y broses o wneud cais? 

Gall y broses o wneud cais deimlo’n bur ddwys, gan ei bod yn para misoedd lawer ac yn cynnwys sawl cam. Serch hynny, gan ei bod yn broses go faith, roedd hi’n bosib neilltuo cryn dipyn o amser i bob rhan ohoni. Bûm yn gweithio ar y cais ysgrifenedig am bythefnos nes fy mod yn fodlon fy mod wedi defnyddio’r enghreifftiau gorau i ateb pob cwestiwn. O ran y cyfweliad, bu imi neilltuo digonedd o amser i fwrw golwg dros fy nghais ysgrifenedig ac i ddatblygu’r pwyntiau yr oeddwn wedi’u gwneud.

Awgrymiadau i ymgeiswyr: 

Roedd cael cipolwg ar gyhoeddiadau Comisiwn y Gyfraith yn ffordd ddefnyddiol o ymgyfarwyddo â’r arddull ysgrifennu. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer yr ymarfer ysgrifenedig, a byddwn yn cynghori darpar ymgeiswyr i nodi’r ffordd y mae’r cyhoeddiadau’n cael eu cyflwyno. O’r defnydd o is-benawdau i’r defnydd o iaith plaen, mae’r addasiadau hyn, sy’n ymddangos yn fân, yn adlewyrchu’r ffordd y mae Comisiwn y Gyfraith yn cyflwyno ei waith i sicrhau ei fod yn hawdd ei ddarllen a’i ddeall. Dylech anelu at ddefnyddio’r adnoddau hyn er eich budd chi! Bydd hyn hefyd yn eich cynorthwyo yn ddiweddarach yn ystod y cyfweliad, oherwydd byddwch wedi darllen cyhoeddiadau diweddar a byddwch yn gallu trafod prosiectau Comisiwn y Gyfraith.