Dathlu Priodas: Cyfraith Priodasau Newydd: Crynodeb o’r Adroddiad
Rydym yn argymell diwygiad cynhwysfawr o’r sylfeini i fyny: cynllun newydd sbon i lywodraethu cyfraith priodasau. Mae ein hargymhellion yn sicrhau, i’r graddau y mae hynny’n bosibl, bod yr un rheolau cyfreithiol yn gymwys i bob priodas, p’un a yw’r briodas yn cynnwys seremoni sifil, seremoni grefyddol neu (os yw’r Llywodraeth yn caniatáu) seremoni cred anghrefyddol, er enghraifft, seremoni Ddyneiddiol.