Find all publications related to projects being worked on by the Law Commission during January 2025 and after. For earlier documents, visit our archived website.
Mae Comisiwn y Gyfraith wedi lansio galw am dystiolaeth yn ceisio darganfod pam nadyw cydradd-ddaliad (sef ffordd o berchen ar eiddo yn Lloegr a Chymru) wedi bod ynboblogaidd.
Bwriad ein prosiect yw diweddaru LRA 2002 yn sgil y profiad o'r ffordd y mae’n gweithredu. Nid nod y prosiect yw darparu ail-luniad cynhwysfawr o'r Ddeddf, ond gwella gweithrediad agweddau penodol o'r ddeddfwriaeth o fewn y fframwaith cyfreithiol presennol. Er bod cwmpas eang i'n trafodaeth o'r Ddeddf, nid yw'n hanfodol yn ei natur.
Camymddwyn mewn Swydd Gyhoeddus: Papur Materion 1 – y gyfraith ar hyn o bryd ydy’r ddogfen gyntaf i’w chyhoeddi fel rhan o’r prosiect hwn. Dogfen gefndir yw hon sy’n disgrifio'r ddeddf camymddwyn mewn swydd gyhoeddus fel y mae ar hyn o bryd. Cyfeirir at broblemau sy’n codi mewn meysydd sy’n creu ansicrwydd, yn ogystal â bylchau a hefyd y gorgyffwrdd sy’n digwydd gyda throseddau amgen.
I gyplau, diwrnod eu priodas yw un o ddyddiau pwysicaf eu bywydau. Mae’n ddiwrnod o ddathlu, yn ogystal â diwrnod o arwyddocâd cyfreithiol. Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â sut i gydbwyso’r ddwy elfen yma a dylunio cyfraith priodas gyfoes sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.