Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on lawcom.gov.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Skip to content

Sgiliau sydd eu hangen arnoch

Mae rôl cynorthwyydd ymchwil yn ymestynnol a bydd gofyn i chi ymgyfarwyddo’n sydyn â phynciau cyfreithiol cymhleth. Mae’r meini prawf cymhwysedd yn adlewyrchu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i wneud y gwaith.

Mae llawer iawn o gystadleuaeth am y rôl. Rydym yn cael dros 600 o geisiadau bob blwyddyn ac fel arfer mae llai nag 20 o swyddi gwag ar gael. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr eithriadol ac yn eu dethol ar sail y meini prawf canlynol:

Gofynion Sylfaenol: sgiliau academaidd hanfodol

Bydd angen i chi ddangos yn eich ffurflen gais sut rydych yn bodloni’r gofynion academaidd sylfaenol. Os na allwch wneud hyn, ni fyddwn yn gallu mynd â’ch cais ymhellach.

Erbyn mis Medi dylech fod wedi cwblhau cwrs/cyrsiau sy’n cynnwys dwy flynedd o astudiaethau cyfreithiol amser llawn achrededig neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny wrth astudio’n rhan-amser.

Mae’n rhaid i’ch canlyniadau academaidd mewn o leiaf un cwrs fod ar lefel dosbarth cyntaf, neu ar lefel sy’n cyfateb i ddosbarth cyntaf neu safon 2.1 dda, gydag o leiaf rhai elfennau o waith dosbarth cyntaf.

Beth sy’n cyfrif fel “dwy flynedd o astudiaethau cyfreithiol”?

Bydd gan y mwyafrif o ymgeiswyr radd yn y gyfraith neu radd gyfun, gydag o leiaf dwy ran o dair o’r radd honno ym maes y gyfraith.

Bydd rhai yn cwblhau gradd yn y gyfraith a bydd angen iddynt ddangos y byddant wedi ennill eu gradd erbyn mis Medi 2024 (*angen diweddaru).

Os nad oes gennych radd israddedig yn y gyfraith, efallai y byddwch yn bodloni’r gofynion sylfaenol os oes gennych o leiaf ddwy flynedd o astudiaethau ôl-raddedig yn y gyfraith. Gall hwn fod yn gwrs sengl (fel MPhil dwy flynedd) neu gyfuniad o gyrsiau (fel y Diploma Graddedig yn y Gyfraith a gradd meistr blwyddyn o hyd).

Os mai eich unig hyfforddiant cyfreithiol yw eich bod wedi cwblhau GDL/CPE a blwyddyn o gymhwyster proffesiynol (LPC neu BPTC) – p’un a ydych wedi’u cymryd ar wahân neu wedi’u cyfuno mewn gradd dwy flynedd – dylech ond wneud cais os gallwch ddangos sgiliau neu wybodaeth ychwanegol sylweddol . Dylai’r rhain fod yn berthnasol i waith Comisiwn y Gyfraith a dylent fod wedi’u cyflawni naill ai drwy astudiaeth academaidd neu drwy waith. Os ydych chi’n credu eich bod yn perthyn i’r categori hwn, gofynnir i chi amlinellu sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf academaidd sylfaenol yn ystod y cais.

Beth sy’n cyfrif fel gradd o ‘safon 2.1 dda’?

Os ydych wedi cwblhau gradd israddedig yn y gyfraith neu radd gyfun gydag o leiaf ddwy flynedd o astudiaeth gyfreithiol ar safon 2.1, byddwn yn edrych ar y marciau rydych chi wedi’u cael yn yr holl bapurau rydych wedi’u cymryd sy’n cyfrif tuag at eich gradd derfynol.

Rhaid i o leiaf dri chwarter y marciau hyn fod yn 60% neu uwch (safon 2.1), gydag o leiaf un o’r marciau hyn yn 70% neu uwch (safon dosbarth cyntaf),
Os ydych yn astudio gradd yn y gyfraith neu radd gyfun ar hyn o bryd, a bod gennych farciau o bedwar papur o leiaf, byddwn yn edrych ar y marciau hynny ac yn defnyddio’r un prawf: rhaid i o leiaf dri chwarter o’r marciau fod yn 60% neu uwch (safon 2:1), gydag o leiaf un o’r marciau hyn yn 70% neu uwch (safon dosbarth cyntaf).

Os nad oes gennych farciau o bedwar papur o leiaf, byddwn yn edrych ar eich canlyniadau academaidd blaenorol, sef Safon Uwch fel arfer. Byddwn yn disgwyl i chi gael o leiaf un A* a dwy A. Os ydych chi wedi sefyll eich arholiadau Safon Uwch cyn cyflwyno’r radd A*, mae angen i chi gael tair A.

Ffyrdd eraill o ddangos gallu academaidd sy’n cyfateb i ‘radd dosbarth cyntaf neu safon 2.1 dda’

Os nad ydych yn bodloni ein gofynion sylfaenol ar sail eich gradd israddedig, gallwch brofi’r safon academaidd drwy ddangos eich bod wedi cwblhau un neu fwy o’r cymwysterau canlynol:

  • Diploma Graddedig yn y Gyfraith (GDL) (neu Arholiad Proffesiynol Cyffredin (CPE) ar lefel rhagoriaeth, neu ar lefel canmoliaeth gydag o leiaf un marc ar lefel rhagoriaeth
  • wedi cwblhau Gradd Meistr yn y gyfraith (LLM, BCL, MA, neu M Phil) ar lefel 2.1 (teilyngdod) neu uwch
  • wedi cwblhau PhD yn y gyfraith

Mae rhai cymwysterau’n cyfuno’r GDL a chymwysterau proffesiynol mewn gradd dwy flynedd. Ar gyfer hyn, rhaid i chi fod wedi ennill gradd dosbarth gyntaf neu ragoriaeth.

Meini prawf hanfodol eraill:

Yn ogystal â bodloni’r gofynion sylfaenol o ran sgiliau academaidd hanfodol, gofynnir i chi ddangos y canlynol:

Ymddygiadau:

  • Cyfathrebu a dylanwadu (ymddygiad arweiniol)

Profiad:

  • Ymchwil gyfreithiol (arwain)
  • Sgiliau cyfreithiol
  • CV

Technegol:

  • Addasrwydd o ran cymhelliant personol

Mae rhagor o fanylion yn y tudalennau sy’n dilyn ynghylch sut i gwblhau’r cwestiynau ar-lein sydd wedi’u cynllunio i brofi eich gallu yn y meysydd hyn.