Mae gweithgareddau Comisiwn y Gyfraith wedi’u gosod allanyn Neddf Comisiynau’r Gyfraith 1965. Yn bennaf, rydym yn gweithio ar brosiectau i wneud meysydd cyfreithiol yn fwy cyfredol, syml a theg, neu gallem ddylunio fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer technoleg ddatblygol.
Pan fyddwn yn dechrau ar brosiect, rydym fel arfer yn cytuno ar gylch gorchwyl gyda’r Llywodraeth.
Rydym hefyd yn seilio ein penderfyniad i ymgymryd â phrosiect ar y canlynol:
- cryfder yr angen i ddiwygio’r gyfraith
- pwysigrwydd y materion y bydd yn ymdrin â nhw
- argaeledd adnoddau o ran arbenigedd a chyllid
- a yw’r prosiect yn addas i ni ymdrin ag ef
Mae ein hymdrechion yn cael eu cyfeirio at ddiwygiadau sydd fwyaf tebygol o gael eu gweithredu.
Mae ein hymgynghoriadau’n dilyn egwyddorion ymgynghori Swyddfa’r Cabinet sy’n rhoi arweiniad i adrannau’r llywodraeth ynghylch hyd, amseriad, hygyrchedd a thryloywder.
Camau’r prosiect
Ar ôl i ni gytuno i adolygu maes o’r gyfraith, bydd y prosiect fel arfer yn dilyn y camau canlynol:
Cychwyn
Rydym yn penderfynu ar gylch gwaith y prosiect, ar y cyd â’r adran berthnasol yn y Llywodraeth.
Cyn yr ymgynghoriad
Yn ystod y cam hwn, rydym yn cynnal astudiaeth o faes y gyfraith ac yn nodi ei ddiffygion. Rydym hefyd yn edrych ar systemau cyfraith eraill i weld sut maent yn delio â phroblemau tebyg. Rydym hefyd yn cysylltu â rhanddeiliaid, ac yn cynhyrchu papurau cwmpasu a materion cychwynnol.
Ymgynghoriad
Rydym yn cyhoeddi papur ymgynghori sy’n manylu ar y gyfraith bresennol a’i diffygion, ac yn cyflwyno’r dadleuon o blaid ac yn erbyn yr atebion posibl.
Rydym yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r ymgynghoriad, ac yn gwahodd sylwadau gan unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb. Rydym hefyd yn annog adborth gan aelodau o’r cyhoedd, gan gynnwys sylwadau ar broblemau nad ydym wedi delio â nhw neu effaith debygol rhywbeth rydym wedi’i gynnig. Gallwch ymateb i unrhyw un o ymgynghoriadau agored y Comisiwn.
Datblygu polisïau
Yn ystod y cam hwn rydym yn dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad, sy’n ein helpu i ddatblygu a mireinio ein ffordd o feddwl. Efallai y byddwn hefyd yn cynhyrchu rhagor o bapurau materion ac yn ymgynghori ynghylch rhywfaint o’r Bil drafft, neu’r holl Fil drafft.
Adrodd
Ar ddiwedd prosiect rydyn ni fel arfer yn cyflwyno adroddiad i’r Llywodraeth sydd yn gosod allan ein hargymhellion terfynol a’r rhesymau rydyn ni’n eu gwneud. Pan fo angen, rydym yn cynnwys Bil drafft a fyddai’n gweithredu ein hargymhellion. Yn dibynnu ar natur y prosiect, gall ein hadroddiad terfynol fod yn gyngor i’r llywodraeth neu’n adroddiad cwmpasu.
Gweithredu
Dim ond Senedd y Deyrnas Unedig a Senedd Cymru all benderfynu gweithredu ein hargymhellion, yn aml drwy Fil yn mynd drwy’r senedd. Rhagor o wybodaeth am gweithredu.
Ymchwil
Rydym yn defnyddio ymchwil academaidd ac yn gweithio gydag academyddion mewn amrywiaeth o ffyrdd.
I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn ymgymryd â’n gwaith ymchwil, darllenwch ein defnydd o ymchwil empirig.
Asesu effaith diwygio
Yn ystod pob cam o’n gwaith rydym yn asesu effaith diwygio, ac rydym yn gweithio’n agos gydag economegwyr sy’n darparu cyngor arbenigol.
Ymateb i’n hymgynghoriadau
Mae agwedd sylweddol o’n gwaith yn golygu ymgysylltu â’r cyhoedd. Rydym yn cael cannoedd o ymatebion i’n hymgynghoriadau bob blwyddyn, gan gyfreithwyr a gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr, academyddion ac aelodau o’r cyhoedd. Rydym yn darllen popeth sy’n cael ei gyflwyno i ni, boed yn 3 paragraff neu’n 30 tudalen o dystiolaeth.
Nid oes fformat penodol ar gyfer cyflwyno safbwyntiau i un o’n hymgynghoriadau – er ein bod fel arfer yn defnyddio Citizen Space i gasglu ymatebion rydym hefyd yn fodlon derbyn gwybodaeth drwy gyfeiriad e-bost perthnasol y prosiect.
Rydym yn annog pobl sy’n ysgrifennu atom i beidio â phoeni am ddefnyddio iaith draddodiadol neu ffurfiol. Rydym hefyd yn awgrymu peidio â defnyddio ‘Annwyl Syr’.
Rhagor o wybodaeth ynghylch pwy fydd yn darllen yr hyn rydych yn ei gyflwyno.