Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru
Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru.
Lawrlwythwch yr adroddiad yma.
Lawrlwythwch grynodeb yr adroddiad yma.
Mae’r dudalen hon ar gael yn Saesneg yma.
Y broblem
Corff yw tribiwnlys a gaiff ei sefydlu i ddatrys anghydfodau, fel arfer yn deillio o benderfyniadau cyrff cyhoeddus. Ond mae’r rheolau a’r gweithdrefnau ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig Cymru yn gymhleth ac yn anghyson, ac mewn rhai achosion, yn anaddas at y diben.
Mae hyn gan fod y rheolau a’r gweithdrefnau sy’n llywodraethu tribiwnlysoedd Cymru wedi cael eu datblygu o ystod helaeth o ddeddfwriaeth wahanol. Cafodd llawer o’r ddeddfwriaeth ei datblygu y tu hwnt i’r broses ddatganoli, sydd wedi arwain at fylchau.
Er enghraifft, nid yw newidiadau a ddaeth i rym drwy Ddeddf Cymru 2017 wedi cael eu hystyried, gan gynnwys presenoldeb Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru a maes gwaith ehangach y Senedd. Ar y cyfan, nid yw’r system yn gydlynol, ac mae diffyg hyblygrwydd.
Y prosiect
Roedd y prosiect yn ystyried sut gellid gwella system tribiwnlysoedd datganoledig Cymru. Gwnaethom gyhoeddi papur ymgynghoriad ar 16 Rhagfyr 2020, a chyhoeddi ein hadroddiad ar 9 Rhagfyr 2021.
Yn ein hadroddiad, argymhellwn y dylid:
- Disodli tribiwnlysoedd presennol Cymru gyda Thribiwnlys Haen Gyntaf unedig i Gymru, a fydd yn cael ei rannu’n siambrau. Byddai’r system hon yn fwy hyblyg ac yn gallu ymateb i ac addasu i newidiadau i’r dyfodol.
- Cynnwys Tribiwnlys Prisio Cymru (sy’n annibynnol ar hyn o bryd) yn y Tribiwnlys Haen Gyntaf, a gwaith paneli apeliadau ysgolion. Byddai Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru yn cynnwys – ymhlith rhai eraill – siambrau eiddo, addysg, iechyd meddwl a’r Gymraeg.
- Creu Tribiwnlys Apêl i Gymru, er mwyn clywed apeliadau o’r Tribiwnlys Haen Gyntaf. Byddai hefyd llwybr apeliadau newydd o baneli apeliadau derbyn i ysgolion i’r siambr addysg.
- Creu pwyllgor gweithdrefnau tribiwnlysoedd newydd, a fydd yn gyfrifol am adolygu a diweddaru’r rheolau gweithdrefnol yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod nhw’n ymateb i amgylchiadau newidiol ac yn parhau i fod yn gyfredol.
- Amddiffyn annibyniaeth barnwrol, drwy:
- Greu Gwasanaeth Gweinyddu Tribiwnlysoedd newydd i Gymru, er mwyn disodli’r Uned Tribiwnlysoedd Cymru presennol. Dylai’r adran fod yn un nad yw’n weinidogol, gyda mwy o rôl i farnwyr.
- Gosod dyletswydd statudol newydd ar Weinidogion Cymru a phawb sy’n gyfrifol am weinyddu tribiwnlysoedd i gynnal eu hannibyniaeth.
Cysylltu
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect, e-bostiwch DevolvedTribunalsWales@lawcommission.gov.uk