Skip to content

Y drefn ddethol

Y broses ddidoli

Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried yn fanwl gan banel dethol fesul tîm. Bydd ceisiadau nad ydynt yn bodloni’r meini prawf academaidd gofynnol yn cael eu gwrthod.

Os byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau, mae hi’n bosibl y bydd eich atebion yn mynd drwy broses ddidoli gychwynnol, a byddwn yn ystyried y canlynol:

  • Ymchwil Gyfreithiol. Os bydd eich cais yn pasio’r cam didoli cychwynnol hwn, a bod nifer fawr o geisiadau’n parhau ar ôl y cam didoli cychwynnol, bydd yr holl feini prawf sy’n weddill yn cael eu didoli ar sail y ceisiadau hynny a basiodd y cam didoli cychwynnol.

Cyfweliadau

Bydd panel dethol pob tîm yn gwahodd yr ymgeiswyr hynny y mae’n ymddangos bod eu ceisiadau’n bodloni’r sgiliau hanfodol orau i gael cyfweliad, gan ystyried nifer y swyddi gwag sydd ar gael yn y tîm.

Bydd y cyfweliad yn cynnwys cwestiynau am y canlynol:

  • ymddygiad – cyfathrebu a dylanwadu, a chydweithio
  • profiadau – ymchwil gyfreithiol a sgiliau cyfreithiol
  • technegol – addasrwydd o ran cymhelliant personol
  • gallu – gweithio gyda gwybodaeth gymhleth

Fel rhan o hyn, gofynnir cwestiynau i chi am un neu fwy o feysydd perthnasol y gyfraith. Cewch wybod am y maes/meysydd cyfreithiol yn eich gwahoddiad i gyfweliad ac anfonir unrhyw ddeunydd angenrheidiol atoch ymlaen llaw.

Rydym wedi paratoi canllaw fideo byr i’ch helpu i baratoi ar gyfer y cwestiynau sy’n seiliedig ar ymddygiad. Eleni, nid ydym yn defnyddio cryfderau yn y broses ymgeisio, ond fel arall gall y canllaw fideo hwn eich helpu i baratoi ar gyfer y cwestiynau ymddygiad a’r broses gyfweld.

Dyma 2 fideo byr:

  1. canllaw i’ch helpu i baratoi ar gyfer y cwestiynau sy’n seiliedig ar ymddygiadau
  2. awgrymiadau defnyddiol ar gyfer cyfweliadau, dangos sut beth yw ein cyfweliadau, a dangos sgiliau cyfweld da a gwael

Disgwylir i’r cyfweliadau gael eu cynnal wyneb yn wyneb ddiwedd mis Ebrill a dechrau mis Mai 2026. Os oes gennych addasiadau rhesymol sy’n ei gwneud yn ofynnol i chi gael cyfweliad ar-lein, anfonwch e-bost at recruitment@lawcommission.gov.uk

Bydd costau teithio safonol (trên, tiwb neu fws) o fewn y DU yn cael eu had-dalu, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich holl dderbynebau os byddwch yn dod i gyfweliad wyneb yn wyneb.

Bydd angen i chi hefyd ddod â thystiolaeth ddogfennol o bwy ydych chi, eich cyfeiriad, eich hawl i weithio a’ch cymwysterau. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhoi yn y gwahoddiad i gyfweliad.

Rydym yn gyflogwr Ymrwymedig Hyderus o ran Anabledd ac rydym wedi ymrwymo i roi cyfweliadau i ymgeiswyr sy’n llwyddo o ran y gofynion sylfaenol, ac sy’n anabl yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010 Lefel 1: Wedi ymrwymo i Hyderus o ran Anabledd. Mae Comisiwn y Gyfraith yn sicrhau cyfle teg a chyfartal i bawb sy’n dod i gyfweliad. Mae’r adeilad yn gwbl hygyrch.

Y Broses Benodi

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn dechrau ar eich gwiriadau cyn cyflogi. Bydd y rhain yn cynnwys gwiriadau diogelwch a hunaniaeth yn ogystal â gwirio eich hanes cyflogaeth blaenorol. Gall y gwiriadau hyn gymryd hyd at 12 wythnos felly mae’n bwysig ymateb i unrhyw geisiadau am wybodaeth cyn gynted â phosibl i sicrhau eich bod yn gallu dechrau yn y rôl yn brydlon.

Os ydych chi wedi byw y tu allan i’r DU am fwy na 6 mis, bydd angen i chi ddarparu tystysgrif ymddygiad da neu archwiliad heddlu tramor wedi’i gyfieithu i’r Saesneg o’r gwledydd rydych chi wedi byw ynddynt neu wedi ymweld â nhw.

Gweler rhagor o wybodaeth am archwiliadau cofnodion troseddol ar gyfer ymgeiswyr tramor.

Rhaid i chi hefyd fodloni gofynion y gwasanaeth sifil o ran cenedligrwydd.

Unwaith y byddwch wedi pasio gwiriadau cyn cyflogi, byddwn yn rhoi cynnig ffurfiol o benodiad i chi.

Ymgeiswyr wrth gefn

Os bydd nifer yr ymgeiswyr sy’n llwyddiannus yn y cyfweliad yn fwy na nifer y swyddi sydd ar gael, caiff rhai eu trin fel ymgeiswyr wrth gefn a byddwn yn cysylltu â nhw os bydd swyddi ar gael yn y dyfodol.