Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on lawcom.gov.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Skip to content

Datganiad preifatrwydd

English

Fel sefydliad ymgynghorol, mae Comisiwn y Gyfraith wedi trin ei gyfrifoldeb i ymdrinio â data personol yn ddifrifol bob amser.

Mae’r gofynion o dan y Ddeddf Diogelu Data 2018 (y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn flaenorol) wedi rhoi ffocws newydd ar yr agwedd bwysig hon o’n gwaith. Mae ein polisi ar ddiogelu data cyffredinol a dogfennau cysylltiedig yn esbonio sut rydym yn prosesu ac yn storio data personol. Rydym yn argymell eich bod chi yn darllen y dogfennau ar y cyd â’r hysbysiad preifatrwydd.

Hysbysiad Preifatrwydd

Dan y Ddeddf Diogelu Data 2018 (y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn flaenorol), rhaid i Gomisiwn y Gyfraith ddatgan y seiliau cyfreithiol am brosesu data personol. Mae gan y Comisiwn swyddogaeth statudol, sydd wedi ei nodi yn y Ddeddf 1965, i dderbyn ac ystyried unrhyw gynigion i ddiwygio’r gyfraith, gan gynnwys rhai a wnaed neu cyfeiriwyd atom. Mae’r angen hwn i ymgynghori’n eang yn galw arnom i brosesu data personol er mwyn bodloni ein swyddogaethau statudol yn ogystal â pherfformio tasg, sef diwygiad o’r gyfraith, sydd er budd y cyhoedd. Rydym felly yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol a ganlyn:

(c) Rhwymedigaeth gyfreithiol: mae prosesu yn hanfodol er mwyn cydymffurfio gyda’r rhwymedigaeth gyfreithiol y mae’r rheolwr yn ddarostyngedig iddo

(e) Tasg gyhoeddus:  mae prosesu yn hanfodol er mwyn perfformio tasg a wneir er lles y cyhoedd neu wrth weithredu’r awdurdod swyddogol sydd wedi ei freinio i’r rheolwr.

Gan amlaf mae prosiectau Comisiwn y Gyfraith yn hirfaith ac yn aml bydd yr un rhan o’r gyfraith yn cael ei hystyried ar fwy nag un achlysur. Bydd y Comisiwn, felly, yn cadw data personol yn unol â’n polisïau cadw a dileu, trwy ffeilio copi caled, ffeilio electronig ac ar gronfa data pwrpasol rheoli rhanddeiliaid oni bai ein bod yn derbyn cais i wneud fel arall. Byddwn yn defnyddio data personol at y dibenion a amlinellir uchod yn unig.

Ein nod yw bod yn dryloyw wrth wneud penderfyniadau, ac egluro ar ba sail rydym wedi dod i’n casgliadau. Gallwn gyhoeddi neu ddatgelu gwybodaeth a chyflwynwyd ganddoch wrth ymateb i bapurau Comisiwn y Gyfraith, gan gynnwys gwybodaeth bersonol. Er enghraifft, gallwn gyhoeddi darn o’ch ymateb yng nghyhoeddiadau Comisiwn y Gyfraith neu gyhoeddi’r ymateb yn ei gyfanrwydd. Gallwn hefyd rannu unrhyw ymatebion a dderbyniwn gyda’r Llywodraeth. Yn ogystal â hyn, mae yna bosibilrwydd y bydd rhaid i ni ddatgelu’r wybodaeth, megis yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Bydd Comisiwn y Gyfraith yn prosesu eich data personol yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol. 

Mae ymatebion i ymgynghoriad yn fwyaf effeithiol pan fyddwn yn gallu dweud pa ymgyngoreion sydd wedi ymateb i ni, a beth maen nhw wedi’i ddweud. Os dymunwch i’r wybodaeth y rydych yn ei chyflwyno cael ei thrin yn gyfrinachol, yna cysylltwch â ni yn y lle cyntaf, ond ni allwn roi sicrwydd ein bod yn gallu cynnal cyfrinachedd ymhob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad awtomatig a grëir gan eich system TG yn cael ei ystyried yn rhwymol ar Gomisiwn y Gyfraith.  

Fel arall, efallai y byddwch am i’ch ymateb fod yn ddienw. Efallai y byddwch yn dymuno i’ch ymateb fod yn ddienw, er enghraifft oherwydd ei fod yn cynnwys gwybodaeth sensitif amdanoch chi neu eich teulu, neu am eich bod yn poeni y bydd pobl eraill yn gwybod beth rydych chi wedi’i ddweud wrthym. Os byddwch yn gofyn i ni drin eich ymateb yn ddienw, efallai y byddwn yn cyfeirio at yr hyn rydych yn ei ddweud yn eich ymateb, ond ni fyddwn yn datgelu bod yr wybodaeth wedi dod gennych chi. Rydym yn rhestru pwy sydd wedi ymateb i’n hymgynghoriadau yn ein hadroddiadau. Os byddwch yn darparu ymateb cyfrinachol, bydd eich enw yn ymddangos yn y rhestr honno. Os bydd eich ymateb yn ddienw, ni fyddwn yn cynnwys eich enw yn y rhestr oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni drwy: enquiries@lawcommission.gov.uk