Skip to content

All content is available under the Open Government Licence v3.0, except where otherwise stated.

To view this licence, visit:
https://nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3

or write to:
Information Policy Team,
The National Archives,
Kew,
London TW9 4DU

or email: psi@nationalarchives.gov.uk.

This publication is available at:
https://lawcom.gov.uk.

Law Commission publishes agricultural law scoping report for Wales

Published:
sheep grazing in field

Today the Law Commission has published a scoping report on agricultural law applicable in Wales which has concluded that it could be made easier to find and understand.

The scoping report examines approximately 150 pieces of legislation affecting Welsh agriculture and sets out how this fragmented legal framework could be brought together  into a single, accessible code of Welsh law.  The scoping report is a significant milestone in the wider initiative to codify the law in Wales; a programme led by the Welsh Government that builds on the Law Commission’s work on the form and accessibility of the law in Wales.

Agriculture is vital to Wales, with approximately 90% of Welsh land used for agriculture. The sector accounts for 1.8% of employment and contributes 1.1% to Welsh gross value added.

Agricultural law in Wales is currently scattered across Acts of the UK Parliament, Acts of the Senedd, EU-derived legislation and secondary legislation made by both Welsh and UK Ministers. This makes it increasingly difficult for farmers, advisers and regulators to identify the exact legal provisions that apply in Wales.

The report identifies which legislation should form part of a possible future code of agricultural law for Wales. It also highlights technical changes needed to simplify, modernise and streamline the law.  In addition, it identifies issues which might require further consideration in the context of developing a code of agricultural law for Wales.

The Commissioner for the law in Wales, Professor Alison Young said,

“The law relating to agriculture in Wales has been spread among different pieces of legislation from different bodies. It is important that the law is made accessible for farmers and those working in agriculture in Wales. This  scoping report identifies opportunities to do that by identifying the scope for modernising, simplifying and bringing the fragmented laws together in one place.”

Codifying agricultural law would bring several benefits. The division of responsibility between Welsh Ministers and UK Ministers would be made clearer, and outdated language and drafting styles would be modernised.

The Law Commission engaged with a wide range of stakeholders, including farmers, unions, regulatory bodies, academics and legal professionals, representing the voices of people affected by the review. This engagement has helped to inform the scoping report’s findings.

The report and summary are available here

Comisiwn y Gyfraith yn cyhoeddi adroddiad cwmpasu ar y Gyfraith Amaethyddol yng Nghymru

Heddiw, mae Comisiwn y Gyfraith wedi cyhoeddi adroddiad cwmpasu ar y gyfraith amaethyddol sy’n berthnasol yng Nghymru, ac mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad y gellid ei gwneud hi’n haws i gael gafael ar y gyfraith ac i’w deall.

Mae’r adroddiad cwmpasu yn edrych ar oddeutu 150 darn o ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar amaethyddiaeth yng Nghymru ac yn nodi sut y gellid dod â’r fframwaith cyfreithiol tameidiog hwn at ei gilydd i greu un cod hygyrch o gyfraith Cymru. Mae’r adroddiad cwmpasu yn garreg filltir arwyddocaol yn y fenter ehangach i godeiddio’r gyfraith yng Nghymru; rhaglen dan arweiniad Llywodraeth Cymru sy’n adeiladu ar waith Comisiwn y Gyfraith ar ffurf a hygyrchedd y gyfraith yng Nghymru.

Mae amaethyddiaeth yn hanfodol i Gymru, ac mae tua 90% o dir Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth. Mae’r sector yn cyfrif am 1.8% o gyflogaeth ac yn cyfrannu 1.1% at Werth Ychwanegol Gros Cymru.

Ar hyn o bryd mae cyfraith amaethyddol yng Nghymru ar wasgar yn Neddfau Senedd y DU, Deddfau Senedd Cymru, deddfwriaeth sy’n deillio o’r UE ac is-ddeddfwriaeth gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU. Mae hyn yn ei gwneud hi’n fwyfwy anodd i ffermwyr, cynghorwyr a rheoleiddwyr i nodi’r union ddarpariaethau cyfreithiol sy’n berthnasol yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn nodi pa ddeddfwriaeth ddylai fod yn rhan o god cyfraith amaethyddol posibl i Gymru yn y dyfodol. Mae hefyd yn tynnu sylw at y newidiadau technegol sydd eu hangen i symleiddio a moderneiddio’r gyfraith. Ar ben hynny, mae’n nodi’r materion y gallai fod angen eu hystyried ymhellach yng nghyd-destun datblygu cod cyfraith amaethyddol i Gymru.

Dywedodd Alison Young, Comisiynydd y Gyfraith yng Nghymru,

“Mae’r gyfraith sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth yng Nghymru ar wasgar mewn gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth gan wahanol gyrff. Mae’n bwysig bod y gyfraith yn cael ei gwneud yn hygyrch i ffermwyr ac i bobl sy’n gweithio ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae’r adroddiad cwmpasu hwn yn nodi cyfleoedd i wneud hynny drwy foderneiddio, symleiddio, a dod â’r cyfreithiau tameidiog at ei gilydd mewn un lle.”

Byddai codeiddio’r gyfraith amaethyddol yn arwain at fanteision lu. Byddai hyn yn gwneud y broses o rannu cyfrifoldebau rhwng Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU yn gliriach, a byddai iaith ac arddulliau drafftio hen ffasiwn yn cael eu moderneiddio.

Bu Comisiwn y Gyfraith yn ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys ffermwyr, undebau, cyrff rheoleiddio, academyddion a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, er mwyn cynrychioli lleisiau’r bobl y mae’r adolygiad hwn yn effeithio arnynt. Mae’r gwaith ymgysylltu hwn wedi helpu i lywio canfyddiadau’r adroddiad cwmpasu.

Mae’r adroddiad a’r crynodeb ar gael yma.