Cyfraith Amaethyddol yng Nghymru

Current project status

  • Initiation: Could include discussing scope and terms of reference with lead Government Department
  • Pre-consultation: Could include approaching interest groups and specialists, producing scoping and issues papers, finalising terms of project
  • Consultation: Likely to include consultation events and paper, making provisional proposals for comment
  • Policy development: Will include analysis of consultation responses. Could include further issues papers and consultation on draft Bill
  • Reported: Usually recommendations for law reform but can be advice to government, scoping report or other recommendations

Click here to read the English version of this page

Y broblem

Mae’r gyfraith sy’n llywodraethu’r sector amaethyddol yng Nghymru wedi’i thaenu ar draws clytwaith o ddeddfwriaeth. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd cael mynediad at y gyfraith ac, mewn mannau, yn anodd ei deall. Bydd Comisiwn y Gyfraith yn ystyried ac yn gwneud argymhellion ar sut i wneud y gyfraith yn y maes hwn yn haws dod o hyd iddi a’i deall.

Mae amaethyddiaeth yn faes cyfraith datganoledig yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod y pŵer i lunio deddfwriaeth sy’n llywodraethu’r sector amaethyddol yng Nghymru yn nwylo Senedd Cymru. Fodd bynnag, nid yw hynny wedi bod yn wir bob amser, ac mae cyfraith amaethyddol yng Nghymru yn tarddu o gyrff deddfu gwahanol; sef Senedd y DU a Senedd Cymru. Ar ben hynny, tra bu’r Deyrnas Unedig (DU) yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd (UE), roedd gan yr UE bwerau i wneud deddfwriaeth amaethyddol a oedd yn berthnasol i’r DU. Ar ôl i’r DU ymadael â’r UE, mae rhywfaint o gyfraith amaethyddol yr UE wedi cael ei hymgorffori, neu ei ‘chymhathu’, yn y gyfraith genedlaethol sy’n berthnasol i Gymru.

O ganlyniad, gall cyfraith amaethyddol yng Nghymru gynnwys darpariaethau sy’n berthnasol i Gymru yn unig, i Loegr yn unig, neu i Gymru a Lloegr. Mae peth o’r ddeddfwriaeth honno’n dyddio’n ôl bron i wyth deg o flynyddoedd ac, mewn mannau, yn defnyddio iaith hen ffasiwn. Bydd rhai deddfiadau hefyd yn cynnwys darpariaethau sydd wedi’u diddymu, neu a allai fod yn ddiangen yn ymarferol, ond efallai na fydd hyn yn amlwg i’r darllenydd.

Y prosiect

Mae Comisiwn y Gyfraith yn gorff annibynnol sy’n adolygu’r gyfraith ac yn gwneud argymhellion ar gyfer diwygio’r gyfraith lle bo angen. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Gomisiwn y Gyfraith ystyried, a ellid moderneiddio cyfraith amaethyddol yng Nghymru, ei symleiddio a’i gwneud yn fwy hygyrch drwy broses o godeiddio, a sut y gellid gwneud hynny.

Mae codeiddio’n golygu dod â’r holl gyfraith ar bwnc penodol, fel amaethyddiaeth, at ei gilydd o dan god cyfraith. Yn ymarferol, gallai hyn olygu bod yr holl gyfraith amaethyddol yng Nghymru yn cael ei chyfuno’n un neu fwy o ddarnau o ddeddfwriaeth, a bod deddfwriaeth gydgrynhoi yn cael ei nodi fel un sy’n ffurfio cod cyfraith ar gyfer amaethyddiaeth.

Mae’r prosiect yn y cam cwmpasu ar hyn o bryd, sy’n golygu y bydd Comisiwn y Gyfraith yn cynnal dadansoddiad manwl o’r gyfraith bresennol, er mwyn pennu beth fyddai cod cyfraith amaethyddol i Gymru.

Yn ystod y cam cwmpasu, bydd Comisiwn y Gyfraith yn ystyried y cwestiynau canlynol:

  • Pa ddeddfwriaeth ddylai fod yn rhan o god cyfraith amaethyddol i Gymru; a
  • Pha newidiadau technegol neu addasiadau i’r gyfraith sy’n ddymunol neu’n angenrheidiol er mwyn symleiddio a moderneiddio’r gyfraith yn y cod cyfraith amaethyddol.

Efallai y byddwn hefyd yn nodi meysydd o gyfraith amaethyddol y mae angen eu dadansoddi ymhellach. Fodd bynnag, ni fydd ein prosiect yn ymestyn i ddiwygio polisi nac yn adolygu sylwedd polisi amaethyddol yng Nghymru.

Dogfennau

Darllenwch gylch gorchwyl y prosiect yma.

Y Camau Nesaf

Mae Comisiwn y Gyfraith wedi dechrau gwaith cychwynnol ar y prosiect. Ein nod yw cyhoeddi papur cwmpasu yng ngwanwyn 2025 a fydd yn gwneud argymhellion rhagarweiniol ynghylch y cwestiynau a nodir uchod a bydd hefyd yn amlinellu unrhyw gynigion ar gyfer meysydd gwaith yn y dyfodol.

Manylion cyswllt

Fel yr esboniwyd uchod, bydd ein prosiect yn arwain at adroddiad cwmpasu, yn hytrach na gwneud argymhellion ar gyfer diwygio’r gyfraith. Felly, nid ydym yn cynnal ymgynghoriad llawn, sy’n golygu na fyddwn yn cyhoeddi papur ymgynghori ac yn gwahodd ymgyngoreion i roi eu barn i ni. Serch hynny, mae gennym ddiddordeb mawr mewn clywed gan unigolion, gweithwyr proffesiynol, grwpiau neu gyrff cynrychioliadol sydd â diddordeb yn ein gwaith. Gellir cysylltu â thîm y prosiect ar agriculturewales@lawcommission.gov.uk.

Project details

Area of law

Public law

Commissioner

Professor Alison Young