Diwygio’r gyfraith yng Nghymru
Mae llawer o’n prosiectau’n edrych ar gyfraith Cymru a Lloegr, ac felly mae ein gwaith ar ddiwygio’r gyfraith yn berthnasol i randdeiliaid Cymru ac wedi’i anelu at wella bywydau pobl yng Nghymru yn ogystal â Lloegr.
Lle mae maes penodol o’r gyfraith wedi’i ddatganoli i Gymru, gallwn ni hefyd gynnal prosiect sy’n ystyried diwygio’r gyfraith yng Nghymru yn unig. Yn 2015, gosodwyd protocol rhwng Comisiwn y Gyfraith a Gweinidogion Llywodraeth Cymru gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Senedd bellach).
Mae’r protocol yn llywodraethu’r ffordd y mae’r Comisiwn yn ymgymryd â gwaith diwygio’r gyfraith sy’n ymwneud â chyfraith ddatganoledig Cymru. Mae’n trafod sut y bydd y berthynas yn gweithio drwy bob cam o brosiect, o’n penderfyniad i ymgymryd â darn o waith, i ymateb y Gweinidogion i’n hadroddiad a’n hargymhellion terfynol.
Ers cytuno ar y protocol, mae’r Comisiwn wedi cyflawni a chwblhau nifer o brosiectau sy’n ymwneud â chyfraith Cymru. Arweiniodd ein hadroddiad yn 2016 ar Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith yng Nghymru at raglen hygyrchedd gyfredol Llywodraeth Cymru ar hygyrchedd cyfraith Cymru. Mae’r rhaglen honno’n cynnwys cydgrynhoad arfaethedig o gyfraith gynllunio, gan weithredu ein hadroddiad o 2018. Mae ein prosiect presennol ar godeiddio cyfraith amaethyddol i Gymru hefyd yn deillio o’r rhaglen honno.
Gweithio gyda rhanddeiliaid Cymru
Mae profiad cynyddol Comisiwn y Gyfraith o weithio ar faterion diwygio’r gyfraith sy’n ymwneud â Chymru wedi arwain at berthnasoedd cryfach â rhanddeiliaid Cymru, sydd o fudd i’n gwaith ar ddiwygio’r gyfraith.
Pwyllgor Ymgynghori Cymru
Sefydlwyd Pwyllgor Ymgynghori Cymru gan Gomisiwn y Gyfraith yn 2013 i helpu i:
- nodi materion sy’n wirioneddol berthnasol i Gymru; ac
- ein cynghori ar sut i gyflawni ein rôl yng Nghymru.
Mae’n gorff ymgynghori sy’n cynnwys barnwyr, academyddion, ymarferwyr cyfreithiol a chynrychiolwyr o gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru. I sicrhau annibyniaeth wleidyddol, nid yw’n cynnwys unrhyw gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru nac Aelodau o’r Senedd.
Cyngor Cyfraith Cymru
Sefydlwyd Cyngor Cyfraith Cymru ar argymhelliad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Mae’r Cyngor yn hyrwyddo addysg a hyfforddiant cyfreithiol, ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru ac adeiladu sector cyfreithiol cynaliadwy yng Nghymru. Mae Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith yn mynychu cyfarfodydd Cyngor y Gyfraith.
Cynhadledd Cymru’r Gyfraith
Mae Comisiwn y Gyfraith yn cael ei wahodd yn rheolaidd i gymryd rhan yng nghynhadledd flynyddol Cymru’r Gyfraith. Mae hyn yn cynnig cyfle i ni adrodd ar unrhyw brosiectau diwygio’r gyfraith perthnasol, gan gynyddu ein gwelededd a’n hatebolrwydd i’r gymuned gyfreithiol yng Nghymru.
Edrych ymlaen
Yn 2023, rhoddodd Cadeirydd ymadawol Comisiwn y Gyfraith, y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Ustus Green, araith yng Nghynhadledd Cymru’r Gyfraith yn esbonio sut roedd y berthynas rhwng Comisiwn y Gyfraith a rhanddeiliaid Cymru yn datblygu. Roedd yr araith yn cynnwys trosolwg o’n gwaith diwygio hyd yma, y trefniadau sefydliadol presennol, ac awgrymiadau ar gyfer dyfnhau a chryfhau ein perthynas â Chymru.
Rydym yn parhau i weithio ar y cynigion a amlinellwyd yn yr araith wrth ddatblygu ein perthynas â Chymru o dan Gadeirydd newydd, Syr Peter Fraser, a benodwyd ar 1 Rhagfyr 2023. Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym wedi sicrhau swyddfa yng Nghymru yn ddiweddar.
Polisi’r Gymraeg
Yn unol ag adran 7 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae’r Comisiwn wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru.
Mae polisi’r Gymraeg yn nodi sut y bydd yr egwyddor o gydraddoldeb yn cael ei gweithredu o fewn Cynllun Cymraeg cyffredinol y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Diweddariad 2021
Adolgiad o weithrediad y polisi iaith Gymraeg
Diweddariad 2017
Update on the Welsh language policy action plan
Diweddariad ar gynllun gweithredu polisi y Gymraeg
Cliciwch ar y ddolen yma i weld y fersiwn Saesneg o’r dudalen hon.