Mae ein gwaith yn cael ei drefnu rhwng 4 tîm; mae pob un yn cael ei oruchwylio gan Gomisiynydd sy’n gyfrifol am y maes gwaith hwnnw. Mae pennaeth tîm ac uwch gyfreithiwr yn arwain y timau o gyfreithwyr a chynorthwywyr ymchwil i gyflawni eu prosiectau.
Rhagor o wybodaeth am waith ein timau:
Cuddio pob adran
Cyfraith Fasnachol a’r Gyfraith Gyffredin,
Cuddio
Comisiynydd: Gwag ar hyn o bryd
Mae’r tîm Cyfraith Fasnachol a’r Gyfraith Gyffredin wedi bod yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau sy’n ymwneud â thechnoleg yn ddiweddar, gan gynnwys crypto-asedau ac asedau digidol eraill, dogfennau masnach electronig (a arweiniodd at greu Deddf Dogfennau Masnach Electronig 2023), contractau cyfreithiol clyfar a llofnodion electronig.
Mae meysydd gwaith eraill yn cynnwys cyflafareddu, credyd defnyddwyr, buddiannau canolradd, dyletswyddau ymddiriedol cyfryngwyr buddsoddi, buddsoddiad cymdeithasol drwy gynlluniau pensiwn, cyfraith contractau yswiriant a hawliau defnyddwyr.
Mae prosiectau presennol a rhai yn y dyfodol yn cynnwys:
- Sefydliadau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol
- Cymdeithasau cyfeillgar
- Asedau digidol: pa gyfraith, pa lys?
- Casgliadau amgueddfeydd
- Gweithredoedd
- Buddiant yswiriadwy
Y tîm Cyfraith Trosedd,
Cuddio
Comisiynydd: Yr Athro Penney Lewis
Mae’r tîm Cyfraith Trosedd yn ymgymryd â phrosiectau sy’n amrywio o brosiectau codeiddio ar raddfa fawr i adolygiadau byrrach o broblemau cyfreithiol pwysicach.
Mae prosiectau presennol a rhai yn y dyfodol yn cynnwys:
- Dirmyg llys
- Tystiolaeth mewn erlyniadau troseddau rhywiol
- Apeliadau troseddol
- Adolygiad o amddiffyniadau mewn lladdiad domestig
Y tîm Cyfraith Eiddo, Teulu ac Ymddiriedolaeth,
Cuddio
Comisiynydd: Yr Athro Nick Hopkins
Mae’r tîm Cyfraith Eiddo, Teulu ac Ymddiriedolaeth yn delio ag amrywiaeth o feysydd pwnc gwahanol.
Mae prosiectau presennol a rhai yn y dyfodol yn cynnwys:
- Ewyllysiau
- Claddu ac amlosgi
- Rhwymedïau ariannol ar ysgariad
- Tenantiaethau busnes: yr hawl i adnewyddu
- Gofal gan berthynas
- Atebolrwydd atgyweirio canghellau a thir cofrestredig
Y tîm Cyfraith Gyhoeddus a’r Gyfraith yng Nghymru,
Cuddio
Comisiynydd: Yr Athro Alison Young
Mae gwaith y tîm Cyfraith Gyhoeddus a’r Gyfraith yng Nghymru yn ymestyn i gyfraith gyhoeddus a rheoleiddio yng Nghymru a Lloegr. Mae’r tîm hefyd wedi ymgymryd â nifer o brosiectau ar gyfer Llywodraeth Cymru ar faterion cyfraith ddatganoledig yng Nghymru.
Mae prosiectau presennol a rhai yn y dyfodol yn cynnwys:
- Ymreolaeth ym maes hedfan
- Prynu gorfodol
- Gofal cymdeithasol i blant anabl
- Dulliau angladdol newydd
- Cyfraith amaethyddol yng Nghymru
Mae’r tîm yn ymgysylltu’n rheolaidd ac yn gweithio ar gyfraith ddatganoledig yng Nghymru, naill ai fel rhan o brosiect ar gyfer Llywodraeth Cymru, neu oherwydd bod un o’n prosiectau yng Nghymru a Lloegr yn cyffwrdd â materion sydd wedi’u datganoli i’r Senedd neu i Weinidogion Cymru.