Rydym wedi nodi rhai meysydd o’r gyfraith y mae ein profiad a’n trafodaethau â rhanddeiliaid yn awgrymu y gallai fod angen eu diwygio. Gallent fod yn brosiectau posib ar gyfer y Rhaglen. Hoffem glywed eich barn ar y rhain, a pha un a ydych chi o’r farn y dylent fod yn rhan o’n gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf..

Codeiddio’r gyfraith yng Nghymru

Pa feysydd o gyfraith Cymru y gellid eu hegluro’n well drwy godeiddio?

Roedd ein prosiect ar ffurf a hygyrchedd y gyfraith yng Nghymru yn anelu at wella ansawdd y gyfraith, a mynediad ati. Un argymhelliad diwygio allweddol a wnaed yn yr adroddiad oedd y dylai Llywodraeth Cymru weithredu rhaglen o godeiddio. Mae codeiddio yn ôl fel y rhagwelwn ni yn golygu cydgrynhoi a, lle bo angen, diwygio’r holl gyfraith mewn pwnc penodol i mewn i un Ddeddf y Cynulliad. Lle bo’n bosibl, dylai’r Ddeddf (neu “Cod”) wedyn sefyll fel yr unig ddeddfwriaeth sylfaenol ar y pwnc hwnnw.

Bwriedir i’n prosiect cyfraith cynllunio gynhyrchu’r Bil codeiddio cyntaf. Gallem ymgymryd â phrosiectau codeiddio pellach er mwyn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen o godeiddio. Roedd cefnogaeth arbennig gan ymgyngoreion i roi sylw i’r gyfraith ym meysydd addysg a llywodraeth leol.

Addysg

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi deddfu 13 darn o ddeddfwriaeth sylfaenol ym maes addysg ers derbyn pwerau deddfu sylfaenol o dan Rannau 3 a 4 Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Yn ogystal, mae Senedd y DU wedi parhau i basio deddfwriaeth sy’n ymwneud ag addysg sydd weithiau wedi bod yn berthnasol i Gymru. Yn dibynnu ar ba mor eang y mae “cyfraith addysg” yn cael ei diffinio, mae cyfraith addysg yng Nghymru yn cael ei chynnwys mewn rhwng 17 a 40 o Ddeddfau Seneddol, saith Mesur a chwe Deddf Cynulliad Cenedlaethol a channoedd o offerynnau statudol.

Mae angen i’r gyfraith ar addysg gael ei deall nid yn unig gan gyfreithwyr, ond gan rieni ac athrawon hefyd. Mae gwahaniaeth cynyddol rhwng deddfwriaeth addysg yng Nghymru a Lloegr, ac mae adrannau ac isadrannau sy’n berthnasol yng Nghymru yn unig neu yn Lloegr yn unig yn cymysgu â’i gilydd o fewn Deddfau Senedd y DU. Rydym wedi awgrymu y byddai rhesymoli’r gyfraith bresennol, ynghyd â diwygio technegol, yn ddymunol.

Llywodraeth leol

Datganodd Pedwaredd Lywodraeth y Cynulliad ymrwymiad i ddiwygio ac ailstrwythuro llywodraeth leol yng Nghymru. Mae Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015, a gafodd Gydsyniad Brenhinol yn ddiweddar, yn gwneud darpariaeth ar gyfer uno dau neu fwy o awdurdodau lleol yn wirfoddol. Ar ddechrau 2016, cwblhaodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ddrafft o’r ail Fesur llywodraeth leol. Rhaid aros i weld pa ddeddfwriaeth a fydd yn cael ei chyflwyno yn ystod y Pumed Cynulliad.

Awgrymodd nifer o ymgyngoreion fod natur dameidiog cyfraith llywodraeth leol yn ei gwneud yn anodd ei deall. Pwysleisiwyd anawsterau dehongli’r gyfraith oherwydd bod y ddeddfwriaeth wedi cael ei diwygio’n helaeth ac oherwydd nad yw’r gyfraith sy’n gymwys yng Nghymru ac yn Lloegr yn ôl eu trefn yn glir.

Roedd ymgyngoreion yn gyffredinol yn cefnogi cydgrynhoi cyfraith llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’r ddeddfwriaeth ar lywodraeth leol yn ein taro fel ymgeisydd ar gyfer codeiddio, a allai naill ai gael ei chyflwyno ochr yn ochr â diwygiadau pellach neu gael ei wneud unwaith y bydd deddfwriaeth diwygio bellach wedi cael ei deddfu.

Beth yw eich barn chi?

A oes unrhyw feysydd o’r gyfraith yng Nghymru lle gallem gynnal prosiect codeiddio fel rhan o’n 13eg Raglen ar gyfer diwygio’r gyfraith? Defnyddiwch y ffurflen hon i anfon eich sylwadau atom ni ar y prosiect posib hwn drwy e-bostio programme@lawcommission.gsi.gov.uk.

Dychwelyd at y prosiectau a awgrymwyd gan Gomisiwn y Gyfraith