Adolygu gofal cymdeithasol i blant
Rydym wedi nodi rhai meysydd o’r gyfraith y mae ein profiad a’n trafodaethau â rhanddeiliaid yn awgrymu y gallai fod angen eu diwygio. Gallent fod yn brosiectau posib ar gyfer y Rhaglen. Hoffem glywed eich barn ar y rhain, a pha un a ydych chi o’r farn y dylent fod yn rhan o’n gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Adolygu gofal cymdeithasol i blant
A oes angen adolygu’r gyfraith?
Arweiniodd adolygiad diweddar Comisiwn y Gyfraith o ofal cymdeithasol i oedolion at Ddeddf Gofal 2014 yn Lloegr, a chyfrannodd yn sylweddol at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yng Nghymru. Wrth ymgynghori ar y prosiect hwnnw dywedodd rhanddeiliaid wrthym fod llawer o nodweddion yr oeddem wedi eu nodi fel rhai problemus mewn gofal cymdeithasol oedolion hefyd yn achosi problemau pan ddarperir gofal ar gyfer plant a phobl ifanc. Yn wir, yn ei Ddeddf 2014 deddfodd Llywodraeth Cymru y tu hwnt i’n diwygiadau awgrymedig, gan ddiwygio’r darpariaethau sy’n nodi gwasanaethau gofal cymdeithasol plant a theuluoedd yng Nghymru (ac felly yn diddymu Rhan 3 o Ddeddf Plant 1989 yn y modd y cymhwysir hi i Gymru).
Mae darparu gofal cymdeithasol ar gyfer plant a theuluoedd yn Lloegr yn parhau i gael ei lywodraethu gan Ran 3 Deddf Plant 1989, sy’n gosod cyfrifoldebau ar awdurdodau lleol i roi cymorth i’r rhai sydd ei angen. Efallai fod yr amser yn iawn i adolygu gweithrediad Rhan 3. Gallai fod yn ddefnyddiol i brosiect diwygio’r gyfraith ystyried y canlynol:
- Y diffiniad o blentyn anabl, a allai yn awr fod yn wahaniaethol ac yn anghyson ag ymagweddau modern at anabledd:
- Bodolaeth barhaus adran 2 Deddf Cleifion Cronig a Phlant Anabl 1970 sy’n gweithredu fel deddfwriaeth “anghynrychioliadol” ac yn rhoi hawliau cyfochrog i wasanaethau ar gyfer plant anabl;
- Yr angen am egwyddorion clir sy’n diffinio sut y dylai gweithwyr cymdeithasol ymdrin ag achosion Rhan 3 a’r ystod o ffactorau y dylid eu hystyried er “budd gorau” y plentyn;
- Gweithredu’r ddyletswydd gyffredinol ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau ar gyfer gofalu am blant a theuluoedd o dan adran 17 Deddf Plant 1989, gan gynnwys yr angen am feini prawf cymhwyster statudol ar gyfer gwasanaethau adran 17, gan ddod â gwasanaethau plant yn unol â’r Ddeddf Gofal, a diffyg dyletswydd statudol benodol i asesu ar gyfer gwasanaethau adran 17;
- Egluro’r berthynas rhwng darparu llety o dan adrannau 17 a 20; ac
- Adolygu’r gwaith o ddarparu llety ar gyfer plant dan ofal yr heddlu neu blant sy’n cael eu cadw o dan adran 21 Deddf Plant 1989.
Pan gafodd ei deddfu fwy nag 20 mlynedd yn ôl cafodd Deddf Plant 1989 ei chanmol fel deddfwriaeth nodedig. Mae mwy na dau ddegawd o ymarfer a newid yn y ffordd o feddwl am anghenion plentyn a darparu gwasanaethau i blant yn awgrymu y gallai fod achos yn awr dros adolygu Rhan 3 y Ddeddf. Byddem yn croesawu barn ynghylch a fyddai’n ddefnyddiol ystyried y materion a nodwyd uchod, ac a oes unrhyw faterion eraill y dylai Comisiwn y Gyfraith edrych arnynt er mwyn gwella’r gofal y mae plant a theuluoedd yn ei dderbyn a lleihau biwrocratiaeth ac arbed amser a chost i awdurdodau lleol.
Beth yw eich barn chi?
Byddem yn croesawu barn ar b’un a fyddai’n ddefnyddiol ystyried y materion a nodwyd uchod, a pha un a oes unrhyw faterion eraill y dylai Comisiwn y Gyfraith eu hystyried er budd gwella’r gofal y mae plant a theuluoedd yn ei gael a lleihau biwrocratiaeth ac arbed amser a chostau i awdurdodau lleol. Defnyddiwch y ffurflen hon i anfon eich sylwadau atom ni ar y prosiect posib hwn drwy e-bostio programme@lawcommission.gsi.gov.uk.
Dychwelyd at y prosiectau a awgrymwyd gan Gomisiwn y Gyfraith