SYMLEIDDIO DEDDFAU YNG NGHYMRU I GREU CARTREFI NEWYDD A DIOGELU’R AMGYLCHEDD
Mae angen cod cynllunio newydd i Gymru er mwyn i’r wlad ailddechrau adeiladu a diogelu treftadaeth a’r amgylchedd ymhellach, medd Comisiwn y Gyfraith.
Yn ôl yr asiantaeth annibynnol ar gyfer diwygio’r gyfraith yng Nghymru a Lloegr, mae deddfau cynllunio cymhleth sy’n gorgyffwrdd – ac a gynhwysir mewn mwy na 30 o Ddeddfau Seneddol – yn arafu’r broses ddatblygu, yn drysu ceiswyr caniatâd cynllunio ac yn creu biwrocratiaeth a chost ddiangen.
Felly mewn ymgynghoriad newydd sy’n cael ei lansio heddiw, mae’n cynnig diwygio system gynllunio Cymru i wneud y gyfraith yn gliriach, yn symlach ac yn fwy effeithiol i bawb.
Dywedodd Comisiynydd y Gyfraith Gyhoeddus a Chyfraith Cymru, Nicholas Paines, CF:
“Mae’n eglur bod angen inni godi mwy o gartrefi yng Nghymru, ac nid yw’r gyfraith yn helpu.
“Mae wedi tyfu dros ddegawdau lawer ac mae hyd yn oed gweithwyr proffesiynol profiadol yn ei chael yn anodd gweld eu ffordd drwy’r jyngl o Ddeddfau, rheolau a rheoliadau. Mae hyn yn arwain at ohirio, camgymeriadau a rhwystredigaeth.
“Mae ar Gymru angen Cod Cynllunio newydd – i ddod â’r gyfraith at ei gilydd mewn un man, dileu gweithdrefnau biwrocrataidd, ac arbed arian i gynghorau. Ac ar yr un pryd rhoi amddiffyniad parhaol i adeiladau hanesyddol ac amgylchedd unigryw Cymru.”
Cynllunio ar gyfer llwyddiant
Y polisi cynllunio sy’n pennu pa ddatblygiadau sy’n cael eu codi a ble, ac mae gan Lywodraeth Cymru darged o adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2021.
Mae awdurdodau cynllunio lleol – 22 o awdurdodau lleol a thri awdurdod parc cenedlaethol – yn paratoi cynlluniau datblygu ac yn penderfynu ar geisiadau cynllunio. Ond y gyfraith sy’n pennu i beth y mae angen caniatâd, a sut mae mynd ati i sicrhau caniatâd.
Yn ystod ei waith ymchwil, mae Comisiwn y Gyfraith wedi gweld ei bod yn anodd dod o hyd i’r gyfraith cynllunio sy’n gymwys yng Nghymru. Mae llawer ohoni’n aneglur ac nid yw’r rhan fwyaf ar gael yn Gymraeg. Ac mae’r broses o wneud cais yn ddiangen o fiwrocrataidd.
Felly mewn ymgynghoriad newydd sy’n cael ei lansio heddiw, Cyfraith Gynllunio yng Nghymru (sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg), mae Comisiwn y Gyfraith yn cynnig ystod eang o welliannau, gan gynnwys:
- Gwneud y gyfraith yn gliriach – drwy ddod â’r 30 o Ddeddfau gwahanol ynghyd mewn un, a dileu’r rhannau sy’n gymwys yn Lloegr yn unig
- Ei gwneud yn haws darganfod pryd mae angen caniatâd neu gydsyniad
- Symleiddio’r broses o sicrhau caniatâd – gan gyflwyno un system o geisiadau cynllunio a’r rheiny’n cynnwys digon o fanylion i bawb wybod beth sy’n cael ei gynnig, ond gan alluogi’r awdurdodau i gadw manylion wrth gefn i gael eu cymeradwyo yn nes ymlaen
- Ei gwneud yn haws sicrhau diwygiad i ganiatâd presennol
- Gwella’r amddiffyniad sy’n cael ei roi i goed a choetiroedd, drwy symleiddio gorchmynion cadw coed, ac egluro’r esemptiadau rhag yr angen am ganiatâd
- Osgoi systemau rheoli sy’n gorgyffwrdd, drwy ddwyn ynghyd ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig, caniatâd ardal gadwraeth a chaniatâd cynllunio, gan gadw lefelau diogelwch treftadaeth yr un pryd
Rhagor o wybodaeth
Mae Comisiwn y Gyfraith yn gorff annibynnol anwleidyddol, a sefydlwyd gan y Senedd ym 1965 i adolygu cyfraith Cymru a Lloegr, ac i argymell diwygiadau pan fydd eu hangen. Ers hynny mae mwy na dwy draean o’i argymhellion wedi’u derbyn neu wedi’u rhoi ar waith yn gyfan gwbl neu’n rhannol.
Cafodd y prosiect ei gytuno gyda Llywodraeth Cymru fel rhan o 12fed raglen y Comisiwn o ddiwygio’r gyfraith. Cylch gwaith y prosiect oedd adolygu’r gyfraith ynglŷn â chynllunio gwlad a thref yng Nghymru a gwneud argymhellion ynghylch symleiddio a moderneiddio’r gyfraith. Cafodd papur cwmpasu ei lansio ym mis Mehefin 2016.
Mae’r Papur Ymgynghori Cyfraith Gynllunio yng Nghymru yn cael ei lansio am 00:01 ddydd Iau 30 Tachwedd 2017. Gall ymatebion gael eu cyflwyno tan ddydd Iau 1 Mawrth 2018. I ymateb, ewch i: https://lawcom.gov.uk/project/cyfraith-cynllunio-yng-nghymru/