Adroddiad blynyddol 2017-18 wedi’i gyhoeddi
Mae Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Gyfraith 2017-18 wedi ei gyhoeddi.
Mae’n datgelu blwyddyn bositif arall i’r corff diwygio cyfraith annibynnol gyda:
- Cyhoeddiad y 13eg Rhaglen o Ddiwygio Cyfraith – 14 maes newydd o’r gyfraith o gerbydau awtomataidd i lesddaliad preswyl.
- Y 6ed Darlith Scarman Flynyddol, wedi’i darparu gan yr Arglwydd Brif Ustus bryd hynny i Gymru a Lloegr, Yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd.
- Ffigurau wedi’u diweddaru sy’n dangos bod saith allan o bob 10 (70%) o adroddiadau Comisiwn y Gyfraith wedi cael eu derbyn neu eu gweithredu’n llawn neu’n rhannol dros yr hanner canrif diwethaf.
- Tri adroddiad gydag argymhellion am ddiwygiad a osodwyd yn y Senedd.
Meddai Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith Syr David Bean:
“Mae’r flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn un o gyflawniad sylweddol i’r Comisiwn.
“Yn rhannol oherwydd lansiad ein 13eg Rhaglen o Ddiwygio Cyfraith – cyfres o brosiectau diwygio cyfraith hynod berthnasol sydd â’r potensial i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.
“Hoffwn ddiolch i’n staff am y cyngor arbenigol y maent yn ei ddarparu i Gomisiynwyr wrth ffurfio’r Rhaglen a’r nifer fawr o adroddiadau ac ymgynghoriadau eraill a lansiwyd dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Er gwaethaf y ffaith ein bod yn gweithio dan bwysau cyllidebol sylweddol, byddwn yn adeiladu ar y gwaith yma i barhau i wneud y gyfraith yn symlach, yn fwy eglur ac yn addas ar gyfer y dyfodol.”