Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2021-22
Mae Adroddiad Blynyddol 2021-2 Comisiwn y Gyfraith wedi’i gyhoeddi.
Mae’r stori hon ar gael yn Saesneg (This story is available in English).
Mae’r adroddiad blynyddol yn amlygu’r gwaith y mae’r Comisiwn wedi’i wneud dros y deuddeg mis diwethaf, megis:
- Cyhoeddi wyth adroddiad mawr ers yr adroddiad blynyddol diwethaf. Mae’r adroddiadau yn ymdrin â phynciau fel dogfennau masnach electronig, troseddau casineb a cherbydau awtomataidd.
- Cyhoeddi dau adroddiad oedd yn benodol i Gymru ar domenni glo a thribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru a osodwyd o flaen y Senedd.
- Gweld nifer o’n diwygiadau cyfreithiol yn cael eu gweithredu gan y Llywodraeth, megis ein argymhellion ar droseddau cyfathrebu a seiber-fflachio yn y Bil Diogelwch Ar-lein ac argymhellion ar droseddau ysbïo yn y Bil Diogelwch Cenedlaethol.
- Yn dilyn ein ymgynghoriad, a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2021, oedd yn gofyn am awgrymiadau ar gyfer prosiectau newydd posibl ar gyfer ein 14eg Raglen, cafwyd dros 200 o gynigion wedi’u paratoi gan grwpiau proffesiynol a chynrychioliadol a channoedd o awgrymiadau eraill gan aelodau’r cyhoedd.
- Gweithredu o dan ein model llywodraethu ac ariannu newydd, y cytunwyd arno gyda’r Arglwydd Ganghellor a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, sydd wedi ein galluogi i barhau i ddiwygio’r gyfraith o ansawdd uchel ac yn amserol.
- Ymdrechion parhaus i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, ar ôl cyhoeddi ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant, drwy recriwtio Cydgysylltydd Amrywiaeth a Chynhwysiant a hyrwyddo ystod o fentrau hyfforddi a datblygu o fewn y sefydliad a thu hwnt.
Dywedodd Syr Nicholas Green, Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith:
“Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn eithriadol o brysur, gyda’n timau yn cymryd rhan mewn dros 20 o brosiectau diwygio’r gyfraith ar unrhyw un adeg.
“O gerbydau awtomataidd i’r gyfraith ar briodasau, rydym wedi cyhoeddi amrywiaeth eang o gynigion ac argymhellion ar gyfer y Llywodraeth, gyda phob un wedi’u cynllunio i gefnogi ein hamcan ehangach hirsefydlog: gwneud y gyfraith yn decach, yn symlach, yn fwy modern ac yn fwy effeithlon.
“Rydym yn parhau i weithio’n agos gydag adrannau ar draws Whitehall, wrth i ni anelu at adeiladu ar ein cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf drwy sefydlu prosiectau diwygio’r gyfraith newydd. Rydym yn falch o gyfradd cymeradwyo uchel ein cynigion o fewn y Llywodraeth. Mae hyn yn adlewyrchu trylwyredd ein dadansoddiad, ond hefyd y ffaith bod yna ffydd wirioneddol bod cynigion Comisiwn y Gyfraith yn effeithiol, yn gytbwys ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
“Mae Comisiwn y Gyfraith yn parhau i fod mewn iechyd da. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i fynegi fy niolch ac edmygedd pawb yn y Comisiwn, ynghyd â’r rhai o’r tu allan i’r sefydliad sydd wedi cefnogi ein gwaith.”