Cymraeg
Comisiwn y Gyfraith
Corff cyhoeddus anadrannol sefydlwyd gan Ddeddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 yw Comisiwn y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr, ac mae’n llunio rhan o deulu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder o gyrff hyd braich.
Ein rôl yw adolygu ardaloedd o’r gyfraith a gwneud argymhellion am newidiadau, gyda’r nod o sicrhau bod y gyfraith mor syml, hygyrch, teg a chost effeithiol â phosib. Mae ein cylch gorchwyl yn cynnwys cyfundrefnu a chyfnerthu’r gyfraith, cael gwared ar anghysondebau a diddymu deddfwriaeth sydd wedi darfod neu sy’n ddiangen.
Dros y blynyddoedd rydym wedi sefydlu enw da am ragoriaeth gartref a thramor am ein harbenigedd yn mynd i’r afael ag ardaloedd o’r gyfraith sy’n gymhleth yn dechnegol, am drylwyredd ein hymchwil a natur eang ein hymgynghoriadau.
Yn tanategu ein dull o weithio mae ein hannibyniaeth o’r Llywodraeth a’r modd gwrthrychol yr ydym yn ymddwyn. Dywed rhanddeiliaid wrthym mai’r ethos cryf yma sy’n ein gwahaniaethu fel sefydliad. Golyga hyn y gall y cyhoedd fod yn hyderus y bydd cynigion yn cael eu trin mewn modd amhleidiol, ac y byddwn bob tro’n ceisio’r datrysiadau gorau, heb unrhyw fias gwleidyddol.
Gweithio gyda Llywodraeth Cymru
Gosodwyd Protocol rhwng Comisiwn y Gyfraith a Gweinidogion Cymru gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ffurfioli sut byddwn yn cydweithio mewn perthynas â materion datganoledig Cymru.
Mae’r Protocol, a lofnodwyd ar 2 Gorffennaf, yn nodi’r dull y bydd y Comisiwn a Gweinidogion Cymru yn ei ddefnyddio ar y cyd i ymdrin â gwaith y Comisiwn wrth iddo ddiwygio’r gyfraith. Mae’n trafod sut bydd y berthynas yn gweithio drwy holl gamau prosiect, o’n penderfyniad i ymgymryd â darn o waith, hyd at ymateb y Gweinidogion i’n hadroddiad terfynol a’n hargymhellion.
Mae Deddf Cymru 2014, a ddiwygiodd Ddeddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 er mwyn ystyried datganoli yng Nghymru, yn rhoi modd i gytuno ar y Protocol. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi’r grym i’r Comisiwn roi gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru ac yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfeirio prosiectau diwygio’r gyfraith yn uniongyrchol at y Comisiwn.
Mewn adlewyrchiad uniongyrchol o’r rhwymedigaethau a osodir ar yr Arglwydd Ganghellor gan Ddeddf Comisiwn y Gyfraith 2009, mae Deddf Cymru 2014 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad yn flynyddol i’r Cynulliad ynglŷn â gweithredu ein hadroddiadau yn ymwneud â materion datganoledig Cymru.
Wrth groesawu’r Protocol, dywedodd Syr David Lloyd Jones, y Cadeirydd: “Mae’r Protocol a Deddf Cymru 2014 yn garreg filltir yn natblygiad perthynas waith gynhyrchiol rhwng y Comisiwn a Llywodraeth Cymru. Maent yn nodi sut byddwn yn cydweithio mewn perthynas â materion datganoledig Cymru ynghylch diwygio’r gyfraith, gan osod rhwymedigaethau ar y naill ochr a’r llall; a sut bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd am ei hymateb i waith y Comisiwn wrth y Cynulliad Cenedlaethol.
“Bydd y diwygiadau hyn i Ddeddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 yn sicrhau bod y cynllun statudol yn adlewyrchu realiti datganoli yng Nghymru am y tro cyntaf.”
Polisi iaith Gymraeg
Mae Comisiwn y Gyfraith wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal, lle bo hynny’n briodol ac yn ymarferol. Rydym wrthi’n datblygu polisi iaith Gymraeg, yr ydym yn disgwyl iddo gael ei gwblhau yn ystod haf 2015.
Mae dogfennau sydd ar gael yn y Gymraeg ar y safle hwn yn cynnwys:
Anghymhwyster i Bledio – Crynodeb
Y Ddeuddegfed Rhaglen O Ddiwygio’r Gyfraith
Camymddwyn Mewn Swydd Gyhoeddus: Materion Papur 1 – Y Gyfraithbresennol
Camymddwyn Mewn Swydd Gyhoeddus: Papur Materion 1 – Y Gyfraith Ar Hyn O Bryd Trosolwg
Diweddaru Deddf Cofrestru Tir 2002: Papur Ymgynghori (Crynodeb)
Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru Dogfen Ymgynghori
Galluedd Meddyliol a Cholli Rhyddid Datganiad Interim
Gofal Cymdeithasol Oedolion: Crynodeb O’r Adroddiad Terfynol
Gwasanaethau Tacsi A Hurio Preifat: Crynodeb
Troseddau Casineb: A Ddylid Ymestyn Y Troseddau Presennol? Crynodeb I’r Sawl Nad Ydynt Yn Arbenigwyr
Ffioedd digwyddiad: Ydych chi’n byw mewn fflat ymddeol? (taflen)
Biliau gwerthiannau crynodeb ymgynghori (benthyciadau cofnodlyfr)
Y Gyfraith Arfau Tanio – Diwygiadau I Fync I’r Afael  Phroblemau Brys (Crynodeb)