Cynhyrchu syniadau ar gyfer 14eg Rhaglen Comisiwn y Gyfraith o ddiwygio’r gyfraith
Mynegai
- Cyflwyniad gan Syr Nicholas Green, Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr.
- Y mathau o brosiectau rydym yn eu gwneud
- Adeiladu’r 14eg Rhaglen o Ddiwygio’r Gyfraith
- Rhai themâu posibl ar gyfer y 14eg Rhaglen
- Rhai syniadau ar gyfer prosiectau posibl
- Prosiectau’r 13eg Rhaglen nad ydynt wedi’u cychwyn eto
- Gofynnwn yn garedig i chi gymryd rhan
Mae’r dudalen yma ar gael yn Saesneg – This page is available in English.
Cyflwyniad gan Syr Nicholas Green, Cadeirydd Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr
Bob hyn a hyn o flynyddoedd, yn unol â’n rhwymedigaethau statudol, mae Comisiwn y Gyfraith yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus gyda’r bwriad o gyflwyno drafft o Raglen Diwygio’r Gyfraith i’r Arglwydd Ganghellor. Cytunwyd ar ein 13eg Rhaglen yn niwedd 2017, ac roedd yn cynnwys 14 o brosiectau – a ategwyd yn ddiweddarach gan ragor o brosiectau wedi’u cyfeirio gan Weinidogion. Nid yw rhai o brosiectau’r 13eg Rhaglen wedi’u cychwyn eto, a byddant yn cael eu cario drosodd. Fodd bynnag, gan fod cymaint o bethau wedi newid ers hynny, credwn ei bod yn bryd i ni ymgynghori eto, gyda’r bwriad o gytuno ar raglen newydd, sef y 14eg Rhaglen.
Yn ogystal â’n gwerth creiddiol, sef cefnogi’r gwaith o greu cyfraith deg, fodern a chlir, rydym yn cydnabod bod yn rhaid i ni barhau i ddangos ein bod yn ystwyth ac yn gallu addasu, a hynny’n gyflym. Mae gan y Comisiwn rôl i’w chwarae yn y tasgau hollbwysig o helpu’r wlad i adfer ar ôl effeithiau pandemig COVID‑19 a mynd i’r afael â rhai o ganlyniadau ymadael â’r UE i’r gyfraith.
Mae’r tudalennau gwe hyn yn cynnwys manylion am nifer o themâu a syniadau y credwn y gallent fod yn rhan o’r 14eg Rhaglen. Hoffem glywed eich barn chi amdanynt. Rwy’n pwysleisio mai syniadau cychwynnol yn unig yw’r rhain. Rydym yn eu hawgrymu er mwyn helpu i ddangos hyd a lled y materion y gall y Comisiwn eu hystyried. Mae’n bwysig fy mod yn pwysleisio nad ydym yn cyfyngu ein hunain i’r meysydd hyn na meysydd cysylltiedig, a bod arnom eisiau clywed eich syniadau newydd chi yn ogystal â’ch ymateb i’n syniadau ni.
Mae hwn yn gyfnod o newid cymdeithasol, technolegol a gwleidyddol mawr ac rwy’n awyddus i glywed eich barn am unrhyw agwedd ar y gyfraith y credwch fod angen ei diwygio.
Rwy’n ddiolchgar iawn i chi am ymgysylltu â ni. Anfonwch eich syniadau am faterion i’w diwygio atom erbyn 31 Gorffennaf 2021.
Y Gwir Anrhydeddus Syr Nicholas Green
Cadeirydd, Comisiwn y Gyfraith Cymru a Lloegr
Mawrth 2021
Y mathau o brosiectau rydym yn eu gwneud
Mae prosiectau y buom yn ymwneud â hwy yn ddiweddar, ar droseddau casineb, cyfathrebiadau niweidiol ar-lein, priodasau a geni babi ar ran rhywun arall, yn dangos ein bod yn ystyried agweddau uchel eu proffil o’r gyfraith a fydd yn bwysig i unrhyw Lywodraeth. Mae’r ffaith ein bod yn annibynnol ac yn ymgynghori ar raddfa eang yn gaffaeliad mawr wrth geisio datblygu consensws ar faterion sensitif sy’n ymwneud â llawer o fuddiannau gwahanol. O ystyried y pwysau aruthrol sy’n bodoli ym mhob rhan o’r Llywodraeth, credwn y gall dull gweithredu’r Comisiwn fod yn werthfawr iawn ac y gall helpu i gyflawni blaenoriaethau pwysig y llywodraeth.
Mae gan y Comisiwn enw da iawn am ystyried agweddau technegol gymhleth ar y gyfraith, er enghraifft cyfraith cynllunio yng Nghymru, llofnodion electronig neu’r Cod Dedfrydu. Nid yw’r prosiectau arbenigol hyn yn flaenoriaeth uniongyrchol i’r Llywodraeth bob amser, ond byddant yn parhau i gael eu cydnabod fel rhai pwysig iawn i unigolion a busnesau. Fel y mae amgylchiadau diweddar wedi dangos, gall materion a oedd ar un adeg yn cael eu hystyried yn rhai blaenoriaeth isel yn sydyn iawn ddod yn faterion pwysig ac uchel eu proffil. O ganlyniad, mae’n hollbwysig bod y Comisiwn yn cadw’r capasiti i roi sylw i agweddau ar y gyfraith nad ydynt yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth ar unwaith, ond sy’n dal i allu cynnig budd sylweddol i’r gymdeithas yn ehangach.
Yn gyffredinol, mae Rhaglenni’r Comisiwn yn cynnwys prosiectau arbenigol o ddiwygio’r gyfraith a phrosiectau sy’n canolbwyntio ar faterion mwy dybryd i’r Llywodraeth.
Nid yw diwygio cyfreithiol o bob math yn addas i Gomisiwn y Gyfraith. Er enghraifft, ni allwn ddarparu atebion i broblemau lle mae’r materion sylfaenol yn ymwneud â sut y dyrennir cyllid. Rydym yn benderfynol o beidio â bod yn wleidyddol ac nid ydym yn ymwneud ag unrhyw faterion pleidiau gwleidyddol. Ni fydd ein rhaglen ddiwygio’r gyfraith yn cynnwys pynciau lle mae’r ystyriaethau perthnasol yn cael eu dylanwadu’n bennaf gan safbwyntiau gwleidyddol (er enghraifft, erthyliad, y gosb eithaf, dad-droseddoli defnyddio cyffuriau) neu faterion polisi sefydledig y Llywodraeth, megis trethiant. Nid ydym yn ystyried problemau sy’n ymwneud dim ond â phrofiad unigolyn arbennig o’r gyfraith, o’i gymharu â phroblem fwy cyffredinol. Ni allwn weithio ar faterion sy’n codi yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn unig.
Adeiladu’r 14eg Rhaglen o Ddiwygio’r Gyfraith
Mae llawer o ffactorau sy’n effeithio ar allu prosiect a awgrymir i gyrraedd rhaglen ddiwygio’r gyfraith. Mae’r rhain yn cynnwys a yw’r Llywodraeth yn cefnogi’r gwaith ac ai Comisiwn y Gyfraith yw’r sefydliad mwyaf addas i ymgymryd â’r dasg.
Rhaid i’r Arglwydd Ganghellor gymeradwyo unrhyw brosiect diwygio’r gyfraith sy’n cael ei gynnwys yn y 14eg Rhaglen.
Yn ychwanegol at hyn, mae angen cael cefnogaeth Weinidogol gan yr adran sydd â chyfrifoldeb polisi dros y maes cyfreithiol perthnasol. Os nad yw’r Llywodraeth yn bwriadu gweld y gyfraith yn cael ei diwygio, ac os nad oes gobaith realistig y bydd unrhyw argymhellion a wneir gennym yn dod yn gyfraith, yna nid oes rheswm i Gomisiwn y Gyfraith gychwyn ar brosiect diwygio’r gyfraith.
Mae angen i ni ddangos gwir werth a phwysigrwydd unrhyw ddiwygiadau arfaethedig. Weithiau nid yw hynny hyd yn oed yn ddigon, ac mae llawer o syniadau cryf na allwn fynd â hwy yn eu blaenau, efallai oherwydd problemau capasiti neu oherwydd nad yw’r Llywodraeth yn cefnogi diwygio mewn maes penodol. O ran cyd-destun, derbyniodd ymgynghoriad cyhoeddus y 13eg Rhaglen dros 1300 o ymatebion a thua 230 o syniadau unigol ar gyfer diwygio’r gyfraith. Yn y diwedd cytunwyd ar 14 o brosiectau ar gyfer y Rhaglen.
Mae’r Comisiwn yn cymhwyso meini prawf y cytunwyd arnynt gyda’r Arglwydd Ganghellor. Byddwn yn ystyried:
- Effaith: Y graddau y bydd diwygio’r gyfraith yn effeithio ar fywydau unigolion, ar fusnes, ar y trydydd sector ac ar y Llywodraeth. Gall y manteision sy’n deillio o ddiwygio’r gyfraith gynnwys:
-
- moderneiddio, er enghraifft cefnogi a hwyluso datblygiad technolegol a digidol;
- economaidd, er enghraifft lleihau costau neu gynhyrchu cyllid;
- tegwch, er enghraifft cefnogi cyfiawnder unigol a chymdeithasol;
- gwella effeithlonrwydd a/neu symlrwydd y gyfraith, er enghraifft sicrhau bod y gyfraith yn cael ei drafftio’n glir a’i bod yn ystyrlon i’r rhai y mae angen iddynt ei defnyddio;
- cefnogi rheolaeth y gyfraith, er enghraifft sicrhau bod y gyfraith yn dryloyw;
- gwella mynediad at gyfiawnder, er enghraifft, sicrhau nad yw gweithdrefnau’n ychwanegu at gymhlethdod neu gost heb fod angen.
-
- Addasrwydd: Ai Comisiwn y Gyfraith, sy’n gorff annibynnol, ac anwleidyddol, yw’r corff mwyaf addas i ymgymryd â phrosiect a gynigir?
- Barn: Y graddau y mae diwygio cyfreithiol arfaethedig yn cael ei gefnogi gan Weinidogion/San Steffan, y cyhoedd, rhanddeiliaid allweddol, y Senedd a’r uwch farnwriaeth.
- Brys: A oes rhesymau brys (er enghraifft, ymarferol neu wleidyddol) pam bod angen diwygio. Er mwyn sicrhau rhaglen waith y gellir ei rheoli, mae’r Comisiwn yn chwilio am gyfuniad o: (a) prosiectau brys â fframiau amser tynn neu benodol a (b) prosiectau tymor hwy lle gellir bod yn fwy hyblyg wrth eu cyflawni. Rhaid cael asesiad realistig o’r amser a’r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni’r gwaith i’r safon a ddisgwylir gan Gomisiwn y Gyfraith.
- Cydbwysedd: i’r graddau y mae hynny’n bosibl mae’r Comisiwn yn chwilio am bortffolio o waith sy’n ystyried: (a) y gofyniad statudol i barhau i adolygu pob agwedd ar y gyfraith; (b) cydbwysedd gwaith ar draws adrannau’r Llywodraeth (h.y. gwahanol flaenoriaethau diwygio’r gyfraith adrannol); (c) cydbwysedd y sgiliau cyfreithiol a’r arbenigedd sydd ar gael i’r Comisiwn.
Mae’n bwysig bod rôl Comisiwn y Gyfraith mewn cysylltiad â phobl Cymru yn cael ei chydnabod ym mhob Rhaglen. O ganlyniad rydym wedi cytuno â’r Arglwydd Ganghellor y dylai pob Rhaglen gan Gomisiwn y Gyfraith, lle bo modd, gynnwys o leiaf un prosiect sy’n ymwneud yn benodol â Chymru.
Rhai themâu posibl ar gyfer y 14eg Rhaglen
Credwn ei bod yn bosibl y bydd rhai themâu cyffredin yn amlygu eu hunain mewn llawer o brosiectau posibl i ddiwygio’r gyfraith yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw’r rhain yn gyfyngedig, ac rydym yn awyddus i glywed gennych a yw eich syniadau chi’n perthyn i’r categorïau hyn:
- Technoleg sy’n datblygu: Mae’r Comisiwn yn draddodiadol wedi bod yn gysylltiedig â diwygio cyfreithiau sy’n bodoli’n barod. Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi datblygu arbenigedd go iawn mewn dylunio fframweithiau cyfreithiol sy’n rhagweld ac yn wynebu goblygiadau technolegau’r dyfodol, er enghraifft cerbydau wedi’u hawtomeiddio a chefnogi’r economi ddigidol. Bydd angen cynyddol yn y dyfodol am gyfraith sy’n adlewyrchu datblygiadau megis deallusrwydd artiffisial a defnyddio algorithmau i wneud penderfyniadau. Ym mhob un o’r meysydd hyn mae angen ystyried y goblygiadau masnachol ac economaidd, a hefyd yr angen am amddiffyniad priodol i ddefnyddwyr.
- Ymadael â’r UE: Gan ein bod wedi ymadael â’r Undeb Ewropeaidd erbyn hyn, mae’n hanfodol ein bod yn dangos i’r byd bod Prydain yn lle gwych i fyw, gweithio a buddsoddi ynddo. Bydd cyfraith eglur, fodern a hygyrch yn helpu i sicrhau’r sefyllfa honno, a sicrhau bod gwasanaethau cyfreithiol yn chwarae rhan flaenllaw wrth wneud y DU yn fwy cystadleuol. Rydym yn croesawu awgrymiadau ar gyfer meysydd lle mae’n rhaid i’r gyfraith ddal i fyny os ydym am gynnal a chryfhau ein sefyllfa yn rhyngwladol, ac am agweddau ar gyfraith Ewropeaidd sydd wedi’i dargadw a ddylai gael ei diwygio, yn hytrach na chael ei hamsugno heb newidiadau i ddeddfwriaeth ddomestig.
- Yr amgylchedd: Mae diddordeb domestig a rhyngwladol eang mewn hybu diwygiadau er mwyn diogelu ein hamgylchedd, a bydd hyn yn effeithio ar y strwythurau cyfreithiol presennol mewn llawer o ffyrdd. Rydym yn awyddus i glywed a oes rhwystrau cyfreithiol a allai fod yn amharu ar y gallu i fabwysiadu mentrau gwyrddach.
- Cadernid cyfreithiol: Mae pandemig COVID-19 wedi amlygu agweddau ar y gyfraith sydd wedi dyddio neu sy’n cynnwys gwendidau na allai ddygymod â phwysau amgylchiadau brys. Pan oedd angen cyfraith gref i wynebu’r her, profodd yn ddiffygiol gan nad oedd ganddi’r hyblygrwydd i ddygymod â’r newid yn yr amgylchiadau. Dylai sicrhau bod y gyfraith yn ddigon cadarn i ddarparu ar gyfer amgylchiadau eithriadol fod yn agwedd bwysig ar waith y Comisiwn yn y dyfodol.
- Symleiddio: Un o egwyddorion sylfaenol y Comisiwn yw symleiddio’r gyfraith, gan gynnwys drwy godeiddio neu gydgrynhoi. Nid yw gwaith o’r fath wedi bod mewn bri bob amser, ond mae mwy a mwy yn dod i ddeall ei werth unwaith eto. Er enghraifft, bydd y Cod Dedfrydu newydd, sy’n seiliedig ar argymhellion y Comisiwn, yn arbed hyd at £250 miliwn dros ddeng mlynedd ac yn helpu i osgoi camgymeriadau dedfrydu. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed am syniadau lle gall symleiddio’r gyfraith arwain at fanteision gwirioneddol a pharhaol i unigolion neu sefydliadau.
Rhai syniadau ar gyfer prosiectau posibl
Yn ogystal â’r themâu ehangach hyn, rydym wedi nodi nifer o brosiectau posibl penodol y credwn y gallent fod â rhinweddau – ar gael yma. Byddem yn croesawu sylwadau am y syniadau hyn ar gyfer prosiectau – boed yn ddadl neu dystiolaeth i’w cefnogi, neu resymau pam na ddylid bwrw ymlaen â hwy. Rhestr ddangosol yn unig o rai o’n syniadau cychwynnol yw hon; nid ydym yn cyfyngu ein hunain i’r meysydd hyn na meysydd cysylltiedig, a hoffem glywed eich syniadau newydd chi yn ogystal â’ch ymateb i’n syniadau ni.
Prosiectau’r 13eg Rhaglen nad ydynt wedi’u cychwyn eto
Roedd y prosiectau a ganlyn wedi’u cynnwys yn ein 13eg Rhaglen ond nid ydynt wedi cychwyn eto. Byddant yn cael eu cario drosodd i’r 14eg Rhaglen, felly nid oes arnom angen rhagor o gyflwyniadau i gefnogi’r gwaith hwn.
- Fframwaith Modern ar gyfer Gwaredu’r Meirw
- Adolygiad Gweinyddol
- Moderneiddio Cyfraith Ymddiriedolaeth ar gyfer Prydain Fyd-eang
- Casgliadau Amgueddfeydd
- Tir Cofrestredig ac Atebolrwydd Atgyweirio Cangell
- Telerau Annheg mewn Les-ddaliad Preswyl
Rydym hefyd yn nodi y bydd ein prosiect o’r 12fed Raglen ar Ewyllysiau, y cytunasom â’r Llywodraeth i’w oedi er mwyn rhoi blaenoriaeth i waith ar Briodasau, yn ailgychwyn cyn gynted ag y bydd adnoddau’n caniatáu.
Gofynnwn yn garedig i chi gymryd rhan
Mae’r ymgynghoriad yn dod i ben ar 31 Gorffennaf.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni trwy ebostio programme@lawcommission.gov.uk