English


Yn lle ymarfer y gyfraith, beth am ei greu?

Bob blwyddyn, mae Comisiwn y Gyfraith yn penodi nifer o gynorthwywyr ymchwil i helpu gwneud y gyfraith yn syml, yn fodern ac yn deg.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr eithriadol o bob cefndir, sydd ar dân ynghylch diwygio’r gyfraith.

Mae’n rôl tymor penodol am 51 wythnos, gyda’r posibilrwydd o adnewyddiad am flwyddyn ychwanegol ar gais.

Ysytyried gwneud cais?

Dysgwch ragor am ein Cynorthwywyr Ymchwil presennol.

Dyma ambell Awgrym Defnyddiol i’ch helpu trwy’r camau recriwtio; o’r cais drwodd i ymuno â Chomisiwn y Gyfraith. Edrychwch hefyd ar ein templed CV, a ddylech ddefnyddio fel canllaw i strwythuro eich CV.

Mae gwybodaeth bellach ynghylch bod yn Gynorthwy-ydd Ymchwil ac amserlen digwyddiadau allweddol i’w gweld yn ein Canllaw i Ymgesiwyr.

Medrwch hefyd ddod o hyd i fideo byr yn dangos sut beth yw’n cyfweliadau, a dangos sgiliau cyfweld da a drwg.

Ar 1 Rhagfyr 2022 fe gynhaliwyd digwyddiad ar-lein am ddim er mwyn rhannu gwybodaeth am ein hymgyrch i recriwtio cynorthwywyr ymchwil am 2022/23.  Gallwch wylio recordiad o’r sesiwn yma.

Bydd ceisiadau am yr ymgyrch am gynorthwywyr ymchwil 2022/23 yn agor ym mis Ionawr 2023.

Pam ymgeisio?

Fel cynorthwy-ydd ymchwil yng Nghomisiwn y Gyfraith, byddwch yn meistroli meysydd astrus o’r gyfraith ac yn helpu ffurfio diwygiadau cyfreithiol fel rhan o dîm arbenigol. Byddwch yn datblygu ystod o sgiliau ac yn derbyn profiad proffesiynol sydd yn anodd ei gael unrhyw le arall.

Byddwch yn rhan o sefydliad sydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl – ni fydd y gwaith rydych yn cyfrannu iddo yn eistedd ar silff. Dros y 50 mlynedd a aeth heibio, mae dros ddwy draean o’n hargymhellion wedi eu derbyn neu eu gweithredu.

Mewn lleoliad yng nghanol Llundain, yng nghalon Whitehall, byddwch yn gweithio ochr-yn-ochr â Barnwr Llys Apêl, CF, bargyfreithwyr a chyfreithwyr – pob un ohonynt yn feistri ar eu crefft. Byddwch hefyd yn cael cipolwg ar weithrediadau mewnol y llywodraeth, yn gweithio gydag adrannau gwahanol a swydogion polisi.

Fel gwas sifil, medrwch hefyd gael mynediad i hyfforddiant a buddion i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa. Ystyrir cyfnod yng Nghomisiwn y Gyfraith yn ddwys iawn gan gyflogwyr – mae ein cynorthwywyr ymchwil nodweddiadol yn mynd yn eu blaenau i yrfaoedd llwyddiannus yn y bar, gyda phrif gwmnïodd cyfreithiol, y byd academaidd ac mewn polisi.

Beth mae cynorthwywyr ymchwil yn ei wneud?

Mae cynorthwyydd ymchwil yn gwneud cais i un o bedwar tîm:

  • Cyfraith Masnach a Chyfraith Gyffredin
  • Cyfraith Trosedd
  • Cyfraith Eiddo, Cyfraith Teulu a Chyfraith Ymddiriedolaeth
  • Cyfraith Gyhoeddus

O fewn y timoedd hynny, bydd cynorthwy-ydd ymchwil yn gweithio’n bennaf ar un prosiect, yn cefnogi’r prif gyfreithiwr – gan amlaf yn gyfreithiwr, bar-gyfreithiwr neu academydd.

Mae’r gwaith hwn yn cynnwys cymysgedd o ymchwil cyfreithiol ac ysgrifennu, dadansoddi polisi, a gwaith gweinyddol.

Gan ddibynnu ar faint y prosiect, gallech fod yn edrych ar sut mae’r gyfraith gyfredol yn gweithio’n ymarferol ac ystyried sut y dylid ei diwygio, helpu i redeg ymgyngoriadau cyhoeddus ar raddfa fawr, neu’n cwblhau argymhellion i’r Llywodraeth ac yn cyfarwyddo Cwnsler Seneddol i ddrafftio Mesur yn gweithredu’r argymhellion hynny.

Am beth rydyn ni’n chwilio?

Nid oes ymgeisydd model rydym yn chwilio amdano/amdani – mae cynorthwywyr ymchwil yn ymuno â ni yn aml yn dilyn astudiaethau ôl-radd, cymmhwyster proffesiynol neu yn ddiweddarach yn eu gyrfa, ac weithiau yn syth wedi iddynt orffen eu gradd gychwynnol.

Mae cystadlu brwd iawn ar gyfer y rôl. Rydym yn chwilio am ymgesiwyr eithriadol ac yn eu dethol ar sail y meini prawf canlynol:

  • Rhaid eich bod wedi cwblhau cwrs neu gyrsiau yn cynnwys dwy flynedd o astudiaethau cyfreithiol parhaol llawn amser neu gyfwerth mewn astudiaethau rhan amser.
  • Rhaid bod gennych radd gychwynnol dosbarth cyntaf neu radd 2.1 dda.
  • Mae rhaid i chi allu arddangos ein hymddygiad, gallu, profiad a sgiliau technegol hanfodol.

 

Os nad ydych yn bodloni isafswm y gofynion academaidd ar sail eich gradd gychwynnol medwch arddangos y safon academaidd trwy un neu fwy o’r cymwysterau cyflawn canlynol:

  • Anrhydedd mewn GDL (neu CPE), neu glod gydag anrhydedd mewn un marc o leiaf.
  • Gradd Dosbarth Meistr yn y Gyfraith wedi ei chwblhau (LLM, BCL, MA neu M Phil) ar 2.1 (teilyngdod) neu uwch.
  • PhD cyflawn yn y gyfraith.