Llywodraeth Cymru yn derbyn y mwyafrif o argymhellion Comisiwn y Gyfraith i ddiwygio cyfraith cynllunio yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi ymateb manwl i argymhellion Comisiwn y Gyfraith i wella cyfraith cynllunio yng Nghymru, gan gadarnhau eu bod yn derbyn y mwyafrif o’r diwygiadau ac eu bod yn bwriadu defnyddio’r argymhellion i lywio’r Bil cydgrynhoi cynhwysfawr. Mae gobeithion i’r Bil chwarae rhan flaenllaw yn rhaglen ddeddfwriaethol nesaf y Senedd.
Cyhoeddwyd adroddiad terfynol Comisiwn y Gyfraith – Cyfraith Cynllunio yng Nghymru – ym Mis Tachwedd 2018, a gosodwyd yr adroddiad gerbron Senedd San Steffan a’r Cynulliad Cenedlaethol (fel yr oedd bryd hynny). Yn yr adroddiad, cyflwynir cyfres o argymhellion er mwyn diwygio’n dechnegol deddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd yn ogystal â chanllawiau, a fydd yn cael eu cynnwys yn y Cod Cynllunio i Gymru. Canlyniad y gwaith fydd symleiddiad enfawr o’r gyfraith gyfredol yn y maes.
Yn yr ymateb manwl, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ymateb i bob un o’r 192 o argymhellion a wneir yn yr Adroddiad. Cafodd 61% o’r argymhellion eu derbyn, ac fe fydd Llywodraeth Cymru yn dechrau diwygio’r gyfraith er mwyn ymddeddfu’r argymhellion. Derbyniwyd 25% o weddill yr argymhellion mewn egwyddor (byddant yn cael eu hystyried ymhellach yn y dyfodol), a dim ond 8% yn unig o’r argymhellion a wrthodwyd.
Yn achos 14 o’r argymhellion (6%), gan gynnwys yr argmhellion i uno caniatad cynllunio â chaniatâd adeilad rhestredig, nododd Llywodraeth Cymru bod angen tystiolaeth gefnogol ychwanegol i lywio’r penderfyniad i ddiwygio’r polisi neu beidio.
Fe fydd Comisiwn y Gyfraith yn parhau i weithio â Llywodraeth Cymru i ddrafftio’r Bil newydd, gyda’r gobaith o gyflwyno’r Bil yn nhymor nesaf y Senedd.
Mewn datganiad ysgrifennedig I’r Senedd, dywedodd Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:
“Ar ran Llywodraeth Cymru, hoffwn ddiolch i Gomisiwn y Gyfraith am y gwaith pwysig a wnaed ganddo a’i gydweithrediad â’r holl randdeiliaid sydd wedi cyfrannu at lwyddiant yr adolygiad hwn o gyfraith cynllunio yng Nghymru. Rwyf hefyd yn falch y bydd yn parhau i weithio gyda ni wrth i’r Bil gael ei baratoi er mwyn inni allu parhau i fanteisio ar ei wybodaeth a’i arbenigedd yn y maes cyfreithiol hwn.”
Dywedodd y Comisiynydd Cyfraith Gyhoeddus, Nicholas Paines CF:
“Rydym yn ddiolchgar i’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol am ei hymateb i’r adroddiad ar Gyfraith Cynllunio yng Nghymru.”
“Testun balchder i ni ydy bod Llywodraeth Cymru yn ymddeddfu’r mwyafrif o’n hargymhellion, a fydd yn symleiddio a chydgrynhoi deddfwriaeth gynllunio yng Nghymru.”
“Rydym yn barod a’n eiddgar i gefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddynt ddechrau ar y Gwaith o weithredu’r argymhellion.”
Canfyddwch fwy am y prosiect a gweld ymateb llawn Llywodraeth Cymru yma.