Does dim modd gwneud cais am y swydd wag Cynorthwyydd Ymchwil ar gyfer 2025 bellach. Fodd bynnag, gan ein bod yn recriwtio bob blwyddyn, rydym yn eich annog i daro golwg arall yn nes ymlaen eleni i gael manylion ein hymgyrch recriwtio nesaf. Yn y cyfamser, dyma ragor o wybodaeth am y swydd a’n meini prawf.

Ymunwch â Chomisiwn y Gyfraith fel cynorthwyydd ymchwil

Bob blwyddyn, mae Comisiwn y Gyfraith yn recriwtio unigolion eithriadol ar gyfer rolau cynorthwyydd ymchwil â thâl am gyfnod penodol, gan gynnig cyfle unigryw i lywio dyfodol y gyfraith a’i heffaith ar gymdeithas. Bydd diweddariadau’n cael eu rhannu yma ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Isod ceir trosolwg o’r rôl, y meini prawf ar gyfer gwneud cais, a pham mai dyma un o’r cyfleoedd y mae’r galw mwyaf amdanynt yn y sector cyfreithiol.

Gwybodaeth am y rôl

Mae cynorthwywyr ymchwil yn ymuno â ni ar naill ai:

  • Contract cyfnod penodol am ddwy flynedd (103 wythnos), neu
  • Contract cyfnod penodol am flwyddyn (52 wythnos) fel dewis arall.

Mae ein swyddfa, sydd wedi’i lleoli yng nghanol Llundain, yn eich rhoi wrth galon Whitehall, gan roi cipolwg i chi ar sut mae’r llywodraeth a llunio polisïau yn gweithio.

Pam gwneud cais?

Mae ymuno â Chomisiwn y Gyfraith yn golygu dod yn rhan o sefydliad sy’n sbarduno diwygio cyfreithiol gwirioneddol a pharhaol. Yn y Comisiwn, byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Cael dylanwad ystyrlon – Mae dros ddwy ran o dair o’n hargymhellion yn cael eu gweithredu neu eu derbyn gan y llywodraeth, gan sicrhau bod eich gwaith yn cyfrannu at newidiadau pwysig a phendant yn y gyfraith.
  • Datblygu arbenigedd amhrisiadwy – Meithrin sgiliau mewn ymchwil gyfreithiol, dadansoddi polisi, drafftio deddfwriaethol a rheoli ymgynghoriadau, gan fynd i’r afael â heriau sy’n ysgogi’r meddwl.
  • Cydweithio ag arbenigwyr blaenllaw – Gweithio’n agos â barnwr Llys Apêl, Cwnsleriaid y Brenin, bargyfreithwyr, cyfreithwyr ac academyddion sydd ar flaen y gad yn eu meysydd.
  • Rhoi hwb i’ch rhagolygon gyrfa – Mae profiad yng Nghomisiwn y Gyfraith yn uchel ei barch, gyda llawer o gynorthwywyr ymchwil yn symud ymlaen i yrfaoedd nodedig yn y Bar, mewn cwmnïau cyfreithiol blaenllaw, y byd academaidd neu bolisi.
  • Gweithio ar ddiwygiadau o bwys – Bydd eich cyfraniadau’n siapio’r gyfraith mewn ffyrdd sy’n effeithio ar fywydau beunyddiol pobl – mae hyn yn waith sydd â phwrpas.

Beth mae cynorthwywyr ymchwil yn ei wneud?

Mae rôl cynorthwyydd ymchwil yn gymysgedd o ymchwil gyfreithiol, dadansoddi polisi a gwaith gweinyddol.

Mae cynorthwywyr ymchwil yn cael eu neilltuo i un o bedwar tîm arbenigol:

  • Cyfraith Masnach a’r Gyfraith Gyffredin
  • Cyfraith Trosedd
  • Cyfraith Eiddo, Teulu ac Ymddiriedolaeth
  • Cyfraith Gyhoeddus

O fewn y timau hynny, mae’r mwyafrif o gynorthwywyr ymchwil yn gweithio’n bennaf ar un prosiect sy’n cefnogi cyfreithiwr – cyfreithiwr, bargyfreithiwr neu academydd fel arfer. O dan eu harweiniad, ac yn dibynnu ar ba gam y mae’r prosiect, gallwch wneud y canlynol:

  • Cynnal gwaith ymchwil a dadansoddi cyfreithiol manwl.
  • Drafftio adroddiadau, papurau ymgynghori a deunyddiau allweddol eraill.
  • Cwrdd a chyfathrebu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid.
  • Helpu i drefnu a rheoli ymgynghoriadau cyhoeddus ar raddfa fawr.
  • Helpu i ddatblygu argymhellion ar gyfer diwygio a chyfarwyddo Cwnsleriaid Seneddol ar ddeddfwriaeth ddrafft.

Am bwy rydyn ni’n chwilio?

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n frwd dros ddiwygio’r gyfraith, p’un a ydych wedi graddio’n ddiweddar, wedi dilyn astudiaethau cyfreithiol pellach, neu wedi cael profiad proffesiynol.

O ystyried natur gystadleuol y rôl, rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:

  • Rhaid i chi fod wedi cwblhau cwrs neu gyrsiau oedd yn cynnwys dwy flynedd o astudiaethau cyfreithiol cymeradwy amser llawn (neu astudiaethau rhan-amser cyfatebol).
  • Rhaid i chi feddu ar radd dosbarth cyntaf neu 2:1 uchel yn y gyfraith.

Os nad yw eich gradd yn bodloni’r safon hon, gallech fod yn gymwys o hyd os gallwch ddangos rhagoriaeth academaidd drwy un o’r cymwysterau canlynol:

  • Diploma Graddedig yn y Gyfraith (neu Arholiad Proffesiynol Cyffredin) ar lefel rhagoriaeth, neu ar lefel canmoliaeth gydag o leiaf un rhagoriaeth a thystiolaeth ychwanegol sylweddol o sgiliau a gwybodaeth.
  • Bod wedi cwblhau gradd meistr yn y gyfraith (LLM, BCL, MA, neu M Phil) ar lefel teilyngdod (2:1) neu uwch.
  • Bod wedi cwblhau PhD yn y gyfraith.

I gael rhagor o fanylion am y rôl, y broses ymgeisio a’r meini prawf hanfodol, edrychwch ar y canllaw ymgeisio.

Fideos Defnyddiol Isod: