This page is available in English.

Heddiw cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith ei ymateb i ddwy fenter newydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu a gwella hygyrchedd cyfraith Cymru.

Mae’r ymgynghoriad ar Fil Deddfwriaeth (Cymru) yn cyflwyno elfen allweddol o adroddiad Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sydd yn Gymwys yng Nghymru gan y corff cyfreithiol.

Mae’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn adolygu gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru i osod gweledigaeth hir-dymor ar gyfer ei ddyfodol yn dilyn setliad newydd datganoli yn Neddf Cymru 2017.

Yn y ddau gyflwyniad, roedd Comisiwn y Gyfraith yn canmol ymdrechion Llywodraeth Cymru i wneud y gyfraith yn gliriach ac yn symlach i’r cyhoedd. Ond roedd yn galw hefyd am barhau’r ffocws ar gyfundrefnu wrth symud ymlaen.

Meddai Comisiynydd y Cyhoedd a Chyfraith Cymru, Nicholas Paines CF:

“Mae cael cyfreithiau y gall pobl eu canfod a’u deall yn hanfodol ar gyfer rheolaeth y gyfraith a dylid canmol Llywodraeth Cymru ar gymryd camau i wneud y gyfraith yn symlach i bawb sydd ynghlwm.

“Byddem yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried ymhellach sydd y gall cyfundrefnu a moderneiddio’r gyfraith fod o fudd i bobl Cymru.”

Cyfraith hygyrch, syml

Ym mis Gorffennaf 2017 roedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion Comisiwn y Gyfraith a ganfuwyd yn ein hadroddiad yn 2016 arFfurf a Hygyrchedd y Gyfraith sydd yn Gymwys yng Nghymru .

Gwnaeth yr adroddiad nifer o argymhellion i wneud y gyfraith yng Nghymru yn gliriach, yn symlach ac yn fwy hygyrch.

Roedd wedi argymell cyfundrefnu meysydd arwyddocaol o’r gyfraith yng Nghymru.

Roedd hefyd wedi argymell rhoi rhwydd hynt i ddiwygio cyfraith dechnegol trwy’r Cynulliad a gwella cyhoeddu deddfwriaeth, gan hwyluso hygyrchedd i fersiynau deddfwriaeth yn y Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae Prif Weinidog Cymru wedi sefydlu’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru i adolygu gweithdredu’r system gyfiawnder yng Nghymru. Mae’n ystyried pa drefniadau sydd angen eu rhoi yn eu lle i sicrhau bod gan Gymru system gyfiawnder sydd yn ateb y diben.

Gweler ymateb Comisiwn y Gyfraith i’r ymgynghoriad ar Fil Deddfwriaeth (Cymru).

Gweler ymateb Comisiwn y Gyfraith i’r adolygiad o Fil Deddfwriaeth (Cymru).