Ymchwiliadau
Rydym wedi nodi rhai meysydd o’r gyfraith y mae ein profiad a’n trafodaethau â rhanddeiliaid yn awgrymu y gallai fod angen eu diwygio. Gallent fod yn brosiectau posib ar gyfer y Rhaglen. Hoffem glywed eich barn ar y rhain, a pha un a ydych chi o’r farn y dylent fod yn rhan o’n gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Ymchwiliadau
A yw’r gyfraith bresennol yn arwain at ymchwiliadau cyhoeddus araf a chostus?
Mae pryder cyffredin am hyd llawer o ymchwiliadau gan y cyhoedd. Mae cyhoeddi’r adroddiad ar Ymchwiliad Irac yn ddiweddar bron i saith mlynedd ar ôl i’r pwyllgor dan gadeiryddiaeth Syr John Chilcot ddechrau ar ei waith ar 30 Gorffennaf 2009 yn un enghraifft, ond nid yr unig un o bell ffordd.
Dywedir mai un ffactor sy’n achosi oedi sylweddol yw’r arfer o anfon adrannau perthnasol o’r adroddiad drafft y cawsant eu beirniadu ynddo at dystion. Er enghraifft, nododd paragraff 30 y protocol ar gyfer tystion oedd yn rhoi tystiolaeth i Ymchwiliad Irac:
“Os bydd yr Ymchwiliad yn disgwyl beirniadu unigolyn yn yr adroddiad terfynol, bydd yr unigolyn hwnnw, yn unol â’r arfer, yn derbyn adrannau perthnasol yr adroddiad drafft er mwyn gwneud unrhyw sylwadau ar y feirniadaeth arfaethedig cyn cyhoeddi’r adroddiad terfynol.”
Disgrifir yr arfer hwn fel arfer fel ‘Maxwellisation’, er yn achos Maxwell v Yr Adran Masnach a Diwydiant meddai’r Arglwydd Ustus Lawton [1974] QB 523 :
“Nid yw’r rhai sy’n cynnal ymchwiliadau … yn gorfod dweud wrth dyst sy’n debygol o gael ei feirniadu yn eu hadroddiad yr hyn sydd ganddynt mewn golwg i’w ddweud amdano mwy nag sy’n rhaid i farnwr sy’n eistedd ar ei ben ei hun sy’n gorfod penderfynu pa un o ddau dyst anghyson sy’n dweud y gwir. Mae’n rhaid i’r barnwr sicrhau bod y tyst y mae ei hygrededd yn cael ei amau yn cael cyfle teg i gywiro neu wrthwynebu sylwedd yr hyn y mae tystion eraill wedi ei ddweud neu y maent yn disgwyl ei ddweud sy’n gwrthdaro â’i dystiolaeth. Dylai arolygwyr wneud yr un peth ond ni allaf weld unrhyw reswm pam y dylent wneud mwy. ”
Cafodd Deddf Ymchwiliadau 2005 ei phasio gan y Senedd gyda golwg ar sicrhau y cynhelir ymchwiliadau cyhoeddus yn gyflymach: mae adran 17 y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sy’n cynnal ymchwiliadau i “ymddwyn yn deg a chan ystyried yr angen i osgoi unrhyw gost ddiangen”. Mae Rheol 13 (3) o Reolau Ymchwiliadau 2006 yn mynd ymhellach gan ei bod yn gwahardd panel ymchwiliad rhag cynnwys unrhyw feirniadaeth amlwg neu sylweddol o berson mewn adroddiad oni bai yr anfonwyd llythyr rhybudd at y person a’i fod wedi cael cyfle rhesymol i ymateb i iddo. Yn 2014 argymhellodd Pwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi y dylid dirymu ac amnewid rheolau 13-15 o Reolau 2006, ond gwrthododd y Llywodraeth yr argymhelliad. Yn fwy diweddar mae Pwyllgor Dethol y Trysorlys Tŷ’r Cyffredin wedi dechrau archwiliad o’r hyn a elwir yn Maxwelleiddio yng nghyd-destun ymchwiliadau ac archwiliadau sy’n cwmpasu materion ariannol, fel y rhai a gynhelir o dan Ran V Deddf Gwasanaethau Ariannol 2012.
Mae yna amrywiaeth o safbwyntiau ar y pwnc hwn. Un farn yw bod yr arfer presennol yn angenrheidiol i gwrdd â gofynion cyfiawnder naturiol ac nad yw Rheolau Ymchwiliadau 2006 yn gwneud dim mwy na rhoi’r egwyddor honno ar waith. Mae eraill yn dadlau bod yr Arglwydd Ustus Lawton yn iawn, a bod Maxwelleiddio yn mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn y mae cyfiawnder naturiol yn gofyn amdano.
A ddylai Comisiwn y Gyfraith archwilio’r pwnc hwn?
Beth yw eich barn chi?
A oes unrhyw feysydd o’r gyfraith sy’n rheoli ymchwiliadau y dylem (neu na ddylem) fod yn eu hystyried i’w cynnwys yn ein 13eg Raglen ar gyfer diwygio’r gyfraith? Defnyddiwch y ffurflen hon i anfon eich sylwadau atom ni ar y prosiect posib hwn drwy e-bostio programme@lawcommission.gsi.gov.uk.
Dychwelyd at y prosiectau a awgrymwyd gan Gomisiwn y Gyfraith