Allech chi fod yn un o’n cynorthwywyr ymchwil?
![](https://cloud-platform-e218f50a4812967ba1215eaecede923f.s3.amazonaws.com/uploads/sites/30/2018/01/Research-Assistant-job-icons-welsh.png)
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer swyddi cynorthwywyr ymchwil yn y Comisiwn Cyfraith.
Fel cynorthwyydd ymchwil, byddwch yn helpu i lunio cyfraith y DU fel rhan o dîm arbenigol, gan feddwl yn ddwfn a gweithio’n greadigol mewn amgylchedd heriol a chefnogol. Mae siambrau, cwmnïau cyfreithwyr a phrifysgolion yn ystyried y profiad o weithio gyda’r Comisiwn yn werthfawr iawn.
Mae cystadleuaeth am y rolau hyn yn eithafol o uchel. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod rhagor, darganfyddwch mwy.
Mae ceisiadau ar agor tan 09 Chwefror 2020 ac mae’n rhaid eu cyflwyno ar-lein.